Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Casgliad o brintiau du a gwyn a lliw o raeadrau Cymru o ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif a roddwyd i’r Llyfrgell gan y Canon David S. Yerburgh ym 2010.
Ganwyd y Parchedig Ganon David Savile Yerburgh, mab ieuengaf y Canon Oswald Yerburgh a’i wraig Joan, ym 1934 yn y Ficerdy, Steeple Ashton, Swydd Wilton. Wedi gadael Coleg Marlborough, treuliodd ddwy flynedd yn gwneud ei Wasanaeth Gwladol, gan ymadael fel is-lefftenant. Yn ystod y cyfnod yma penderfynodd hyfforddi i fod yn Offeiriad Eglwys Loegr yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt, ac yna yng Ngholeg Diwinyddol Wells. Fe’i hapwyntiwyd yn gurad cynorthwyol ym mhlwyf Caerceri (Cirencester) ac yna’n brif gurad Bitterne Park yn Southampton ymhen pedair blynedd. Wedi saith mlynedd fel curad, cynigiwyd iddo Blwyf St John’s, Churchdown, ger Caerloyw, cyn symud saith mlynedd yn ddiweddarach i Blwyf St Mary’s, Charlton Kings, ger Cheltenham. Pan aeth ar wyliau gyda ffrind i ardal Cwm Nedd cychwynnodd ei ddiddordeb mewn rhaeadrau, a phrynodd ei brint cyntaf o Raeadr Cilhepste am £15 - a chyn mynd am adref roedd wedi prynu dau brint arall!
Ar ôl treulio un ar ddeg mlynedd yn Charlton Kings symudodd i Minchinhampton ger Stroud. Ymwelodd â’r Llyfrgell Genedlaethol am y tro cyntaf ym 1982 i weld y casgliad llyfrau a oedd yn cynnwys rhaeadrau o Gymru. Fe’i hysgogwyd i gatalogio’i gasgliad o brintiau o raeadrau, ac yn raddol i gatalogio’i ganfyddiadau o’r amrywiol ysgythriadau o raeadrau Cymru yng nghasgliadau’r Llyfrgell, gan nodi enw’r artist a’r ysgythrwyr, y dyddiad a’r dull o ysgythru. Cychwynnwyd trafod y posibiliad o gynnal arddangosfa yn y Llyfrgell yn ystod y cyfnod yma. Daeth i sylweddoli’n raddol i fwyafrif o’r ysgythriadau gael eu hargraffu er mwyn darlunio llyfrau o olygfeydd amrywiol, ac arweiniodd hyn i’w ymchwil ar lyfrau hynafiaethol o olygfeydd yn darlunio rhaeadrau Cymru. Yn ystod ei ymchwil casglodd nifer o lyfrau o olygfeydd o Gymru, dros 500 ysgythriad a rhai darluniau gwreiddiol, gan greu darlun gweledol cyflawn o’r holl brintiau yn darlunio rhaeadrau Cymru. Rhoddodd y Canon David Yerburgh ei holl gasgliad o brintiau Cymraeg, ysgythriadau, llyfrau a darluniau gwreiddiol i’r Llyfrgell Genedlaethol ‘yn y gobaith y bydd nifer yn cael yr un pleser o edrych arnynt ac y cefais i pan oeddent yn fy meddiant’.
Ymddeolodd o’i weinidogaeth lawn amser ym 1995, a symud i fyw at ei frawd yng Nghaersallog, lle mae’n dal i gynnig ei wasanaeth i Eglwys St. Thomas ynghanol y ddinas. Yn dilyn ei ymddeoliad cynorthwyodd i drefnu dwy arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol - ‘The Waterfalls of Wales’ ym 1997, a ‘The Abbeys, Priories and Cathedrals of Wales’ ym 1999. O ganlyniad, cyhoeddodd un ar ddeg llyfr ar wahanol agweddau o dopograffeg Gymreig.
Ceir tua 340 print du a gwyn a lliw o raeadrau Cymreig o ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif yng nghasgliad David Yerburgh. Ceir gweithiau gan nifer o artisitiad ac ysgythrwyr adnabyddus fel Paul Sandby, Henry Gastineau, J. C. Ibbetson, David Cox a J. P. Neale. Gwelir eu gweithiau yng nghasgliadau eraill y Llyfrgell, yn fwyaf arbennig yng nghasgliad Tirlun Cymru.
Mae’r casgliad yn cynnwys rhaeadrau o bob rhan o Gymru. Ceir lluniau o’r rhaeadrau enwocaf fel Pistyll Rhaeadr, y rhaeadr uchaf yng Nghymru, Sgwd-yr-Eira ger Ystradfellte ym Mannau Brycheiniog, Rhaeadr Ewynnol (Rhaeadr y Wennol) ym Metws-y-Coed, a Phontarfynach yng Ngheredigion. Ceir hefyd ddarluniau o raeadrau llai adnabyddus fel Rhaeadr Caradog ger Tynygraig yng Ngheredigion, Phont-y-Glyn-Dyffis ger Corwen, a Rhaeadr Ddu ger Maentwrog. Mae enwau rhai o’r rhaeadrau yn ysgogi chwilfrydedd, fel y ‘Water break its neck’, y ‘Grey Mare’s Tail’, Sgwd Ddwli, Rhaeadr Ceunant uffern a Rhaiadr y Benglog. A phwy tybed oedd Gwladis, Einion Gam a Huw Llwyd sydd wedi eu hanfarwoli yn enwau’r rhaeadrau?
Rhannwyd y casgliad yn 11 cyfrol, wedi eu rhannu’n bennaf yn ôl teitl y llyfr yr ymddangosodd y llun ynddo’n wreiddiol, a nifer ohonynt wedi eu rhannu ymhellach yn ôl cyhoeddwr, artist neu ysgythrwr. Mae llyfr brasluniau o 1868, sy’n cynnwys 43 braslun o olygfeydd o ogledd Cymru hefyd yn rhan o’r casgliad. Mae’n ymddangos i’r brasluniau gael eu creu gan un artist dienw. Arysgrifennwyd y geiriau 'Sketches in Wales 1819' ar feingefn y llyfr.