Symud i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad pwysig ac amrywiol o weithiau celf mewn ffrâm. Cynrychiola'r casgliad weithgarwch canrifoedd ym maes darluniau tirlun, portread a genre.

Canolbwyntia'r Llyfrgell ar gasglu delweddau yn ymwneud â Chymru a'r gwledydd Celtaidd eraill, ac mae'r catalog arlein hwn yn adlewyrchu'r pwyslais hwnnw gyda mwyafrif y darluniau yn cofnodi agweddau ar fywyd Cymru, llefydd yng Nghymru, neu bobl sydd â chysylltiad â'n gwlad. Mae'r amrywiaeth o fewn y casgliad yn syfrdanol. Ceir ynddo baentiadau gwych meistri fel J M W Turner, Richard Wilson, Thomas Gainsborough, Paul Sandby a James Ward yn ogystal â gwaith arlunwyr sy'n cynrychioli'r traddodiad brodorol Cymreig fel William Roos, Hugh Hughes a'r Parchedig Evan Williams. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gwaith meistriaid cyfoes, yn eu plith Syr Kyffin Williams, Will Roberts ac Evan Walters. Bydd pawb sydd â diddordeb mewn celf yng Nghymru yn cael pleser o bori drwy'r casgliad hwn.

Mae'r cynllun yn agor drws i gasgliadau'r Llyfrgell, gan ganiatáu mynediad trwy'r rhyngrwyd i ddeunydd nad oedd modd ei weld o'r blaen heb ymweld â'r Llyfrgell ei hun yn Aberystwyth. Mae'r catalog yn cynnwys yn agos i 5000 o ddelweddau wedi'u digido ynghŷd â chofnodion llyfryddol disgrifiadol a mynegai.

Gobeithir y bydd y catalog hwn o ddefnydd i gynulleidfa eang iawn, ac yn ychwanegu at y swm sylweddol o wybodaeth arlein sy'n cael ei ddarparu'n barod gan y Llyfrgell. Bydd y rhai sy'n chwilio am luniau o Gymru a'r Cymry yn canfod yma drysorfa o ddarluniau dilys nad yw'r mwyafrif ohonynt wedi'u cyhoeddi o'r blaen.

Gellir prynu copïau ohonynt yn unol â pholisi'r Llyfrgell. Ceir mwy o wybodaeth ar y dudalen 'Sut i sicrhau copïau'.

Mae'r casgliad hwn yn un sy'n tyfu'n gyson a bydd yn ffynhonnell gyfeiriol bwysig i'r sawl sy'n ceisio gwybodaeth am hanes Cymru a chelf yng Nghymru.

Rhai Gweithiau Celf mewn Ffrâm sydd ar gael i'w gweld

Brenda Chamberlain, Self-portrait

Brenda Chamberlain, Robertos Saragas Dancing

Ogwyn Davies, Gwinllan a roddwyd

Ogwyn Davies, Capel Bwlchgwynt Tregaron

Ogwyn Davies, Dathlu Gorchest Caradog Jones

Ogwyn Davies, Capel Ebenezer, Llangybi a Thwr y Dderi

Ogwyn Davies, Eglwys Llanidloes

Ogwyn Davies, Cader Idris

Ogwyn Davies, Eglwys Llanddewi Brefi

Ogwyn Davies, Allt Ddu, Llanio, Tregaron

Ogwyn Davies, 6721: Trwydded i Ymgynnull

Ogwyn Davies, Rhydygwin Unitarian Chapel Felinfach

John Rogers, Rhosson chapel & farm - Flemish Chimney

Wilfred Sirrell, Capel Rehobath, Coedpoeth

Wilfred Sirrell, Rhondda

Claudia Williams, Greenham peace vigil

Michael Tomlinson, [Jan Morris]

Claudia Williams, Mothers & children

David Griffiths, Sir Cennydd Traherne

Will Roberts, Two workers, Abbey Works

Norman Toynton, My room with De Chirico

Eirian Short, Y brain = The crows

Gordon Stuart, Miss Norah Isaac

David A. Light, October 9th 2008

David A. Light, September 19th 2008

David A. Light, August 24th 2008

David A. Light, July 20th 2008

David A. Light, June 16th 2008

David A. Light, April 24th 2008

David A. Light, March 19th 2008

David A. Light, February 22nd 2008

David A. Light, January 15th 2008

David A. Light, December 16th 2008

David A. Light, May 19th 2008

David A. Light, November 12th 2008

Malcolm Neon, Dafydd Iwan yn y glaw

Malcolm Neon, Tecwyn lliwgar

Hywel Harries, Ystumtuen

Claudia Williams, Two girls playing with dollies and a toy pram

Claudia Williams, Self portrait with Gwilym

Keith Bayliss, Momento

David Griffiths, Joe Calzaghe

Christopher Hall, Pool street, Caernarfon

Ivor Williams, Elfed

Scott Nisbet, Aberystwyth harbour

Gordon Stuart, Miss Norah Isaac

Ivor Davies, Blodeuwedd

Karel Lek, Parys mountain

David Griffiths, Self-portrait

David Lawrence Carpanini, South Wales mining village

David Griffiths, The Most Reverend Dr Barry Morgan, Archbishop of Wales

Wil Jones, Wil Sam

Luned Rhys Parri, Ysgol [Dafydd Llwyd]