Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: NLW BV2202F
Cynhyrchwyd y pymtheg golygfa a grybwyllir yn nheitl y gyfrol hon, ac sydd yn ffurfio ei chanolbwynt, gan J.C. Stadler (bl. 1780-1812) o ddyfrlliwiau gwreiddiol gan yr arlunydd John 'Warwick' Smith (1749-1831). Gwnaed y daith ei hun gan Syr James Edward Smith (1759-1828), gŵr sy'n adnabyddus fel gwyddonydd ac fel cadeirydd y Linnean Society.
Mae'r awdur yn cychwyn ei daith yn Llundain, yn trafeilio oddi yno i Gaerfaddon a chroesi Môr Hafren mewn cwch. Yna mae'n teithio drwy ardaloedd mwyaf darluniadwy de Cymru, ond ei nod yw ymweld ag ystad enwog Hafod Uchdryd.
Yr oedd Hafod Uchdryd, neu Hafod, yn fan poblogaidd gydag artistiaid a theithwyr yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae llawer o ddelweddau enwog eraill o'r ardal o'r cyfnod hwn, e.e. y lluniau a geir yn Llyfr Lluniadu'r Hafod gan Thomas Jones Pencerrig (1742-1803).
Crewyd Hafod, a leolir ym mhen uchaf Cwm Ystwyth yng ngogledd Ceredigion, gan Thomas Johnes (1748-1816), a chyfeirir ato'n aml fel Johnes yr Hafod. Ystyriwyd y tŷ a'r gerddi ymysg y gorau o'r ystadau darluniadol ym Mhrydain. Ymwelodd llawer o ddarlunwyr ac awduron â chanolbarth Cymru er mwyn gweld Hafod. Roedd gan Johnes weledigaeth gyfannol o'i baradwys wledig: cynhwysai gerfluniau, ogofâu, pontydd a golygfeydd gwych fel rhan o'i gynllun. Yn y tŷ yr oedd Johnes wedi casglu ynghyd gasgliad trawiadol o gelf weledol.
Yn dilyn tân yn 1807 a marwolaeth ei ferch, Mariamne, yn 1811 rhoddodd Johnes y gorau i'w gynlluniau i barhau â datblygu Hafod. Ailfodelwyd y tŷ gan berchennog newydd ond wedi cyfnod dechreuodd ddirywio ac fe'i dymchwelwyd yn 1956. Yn 1932 cafwyd tân yn Eglwys Hafod a achosodd ddifrod mawr i'r gofeb farmor i Thomas Johnes a'i deulu a leolir ynddi.
Canolbwyntia testun Smith ar ddisgrifio Hafod a'r ardaloedd cyfagos. Cawn hanes byr o'r ystad a'r teuluoedd oedd yn ei redeg. Yna, mae'r awdur yn ein harwain ar hyd y llwybrau drwy'r goedwig o gwmpas Hafod a Phontarfynach, gan dynnu sylw at y wlad o gwmpas. Y mae darluniau godidog Warwick Smith yn galluogi darllenwyr i rannu'r profiad o ymweld â thirlun Hafod a oedd yn hardd ond, bryd hynny, yn anghysbell.