Pwy oedd John ‘Warwick’ Smith?
Ganed John ‘Warwick’ Smith yn Irthington, Cumberland, ar 26 Gorffennaf, 1749. Ei athro celf cyntaf oedd yr arlunydd amatur, Capten John Bernard Gilpin o Gastell Cumberland ac ef oedd yn gyfrifol am ei argymell i fod yn athro arlunio. Tra’r oedd yn Sir Derby c.1775, daeth i adnabod George Greville sef ail Iarll Warwig, casglwr celf nodedig Castell Warwig. Noddodd Greville i John ‘Warwick’ Smith fynd i’r Eidal i baentio ac yno cyfarfu â nifer o arlunwyr talentog gan gynnwys yr arlunydd enwog Cymreig Thomas Jones (1742-1803) a fu’n ddylanwad mawr arno. Mae’r darluniadau a greodd tra’r oedd yn yr Eidal yn cael eu hystyried fel rhai o’i weithiau gorau a chredir i’r daith gael tipyn o ddylanwad ar ei arddull. Ar ôl treulio pum mlynedd yno, dychwelodd i Loegr ac ymgartrefodd yn Warwig. Tybir iddo gael y llysenw ‘Warwick’ ar ôl enw’r dref yr ymgartrefodd ynddi ac oherwydd yr holl gymorth a dderbyniodd yn ystod ei yrfa gan ail Iarll Warwig. Yn ystod y cyfnod hwn fe deithiodd yn helaeth o amgylch Prydain ac fe gyhoeddwyd nifer o’i weithiau, gan gynnwys 6 o’i ddarluniau a gafodd eu llingerfio, yn llyfr Samuel Middiman Select Views in Great Britain (1784-5).Yn 1786 fe gomisiynodd John Murray, 4ydd Dug Atholl, John ‘Warwick’ Smith i baentio 26 llun o Ynys Manaw a chânt eu hystyried heddiw fel y cofnodion darluniadol pwysicaf sy’n bodoli o’r Ynys. Arddangosodd nifer o’i weithiau gyda’r Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol a bu’n llywydd, ysgrifennydd a thrysorydd i’r Gymdeithas cyn ymddeol yn 1823 yn 74 mlwydd oed. Bu’n diwtor celf am nifer o flynyddoedd cyn iddo farw yn 81 mlwydd oed. Cafodd ei gladdu yng Nghapel Saint Siôr, Heol Uxbridge.