Symud i'r prif gynnwys

Gweld esiamplau o'r casgliad

Mae casgliad y Llyfrgell Genedlaethol o lyfrau lluniadu yn cynnwys ystod eang o ddeunydd, o waith amatur gan ymwelwyr cyfoethog i frasluniau gan arlunwyr proffesiynol.

Perthyn yr arfer o ddefnyddio cyfrolau yn hytrach na dalennau rhydd ar gyfer lluniadu i ffordd arlunwyr o weithio a'r ffaith bod llyfrau o'r fath ar gael yn rhad. Ceir enghreifftiau cynnar amlwg o amser y Dadeni pan fyddai arlunwyr fel Leonardo da Vinci (1452-1519) yn llenwi cyfrolau o bapur glân â lluniadau manwl. Cedwid y cyfrolau hyn wedyn.

Perthyn y rhan helaethaf o gasgliad y Llyfrgell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Eto i gyd ceir gwaith ardderchog o'r ddeunawfed ganrif, ac ymhlith y pwysicaf mae gwaith Alexander Cozens (1717-1786) a'i fab John Robert (1752-1797), P. J. de Louthenbourg (1748-1812), Moses Griffith (1749-1819), a Thomas Jones, Pencerrig (1742-1803). Fel arfer golygfeydd o Gymru sy'n llenwi'r cyfrolau hyn, a nifer ohonynt yn dilyn llwybr topograffyddol penodol. Daeth hi'n ffasiynol i ymwelwyr gynnwys brasluniau o'u gwaith eu hunain mewn hanesion am eu teithio, ac mae gwaith John Parker (1798-1860) ac Edward Pryce Owen (1788-1863) yn enghreifftiau da o hyn.

Bu'r Llyfrgell yn casglu llyfrau lluniadu o'r cychwyn. Derbyniwyd nifer yn rhodd gan Syr John Williams, prif noddwr y Llyfrgell, gan gynnwys cyfrol o ddyfrlliwiau o Gymru gan Thomas Rowlandson (1756-1827), gŵr a gydnabyddir fel prif ddrafftsmon ei gyfnod.

Mae'r Llyfrgell yn parhau i gasglu'r math hyn o ddeunydd ac ymhlith yr eitemau pwysicaf a dderbyniwyd yn ddiweddar mae cyfres o lyfrau gan Will Roberts (1907-2000) a chyfrol fechan o ddyfrliwiau gan Penry Williams (1798-1885).

Ceir enghreifftiau unigryw o waith arlunwyr Cymreig yn y casgliad. Mae'r casgliad yn adnodd hanfodol a byw i neb a fyn wybod mwy am fywyd yng Nghymru dros y ddwy ganrif a hanner a aeth heibio. Er bod mynediad at rai o'r eitemau mwyaf gwerthfawr wedi'i gyfyngu, gellir gweld y rhelyw o'r casgliad heb apwyntiad.