Symud i'r prif gynnwys

Yn 1772 cofrestrodd y Llundeiniwr Thomas Rowlandson fel myfyriwr yn yr Academi Frenhinol. Yr oedd yn ddrafftsmon penigamp, ac yn 1777 enillodd fedal arian am ei grefft. Gadawodd yr Academi yn 1778 gan gychwyn gyrfa hir fel arlunydd portreadau dyfrlliw hynod ddawnus.

Paentiwr golygfeydd a dychanwr

Yn ystod y 1780au enillodd Rowlandson enw da iddo'i hun am ei ddelweddau gwych ac weithiau deifiol o fywyd bob dydd y cyfnod. Amrywiai'r darluniau hyn o sylwadau gwleidyddol i droeon bywyd a charicatur genre. Defnyddir ei ddyfrlliwiau yn aml iawn i ddylunio bywyd yn yr oes Sioraidd ac yn arbennig felly rhai o'r cynulliadau mawr oedd yn gysylltiedig â chwaraeon, celf a diddanwch. Y mae ei Vauxhall gardens a luniwyd yn 1784 ac a ddangoswyd yr un flwyddyn yn yr Academi yn enghraifft nodedig ohono'n cyfuno ei allu i gyfansoddi â'i hiwmor i greu paentiad sydd ag arwyddocâd hanesyddol ac yn gampwaith celf ar yr un pryd.

Nid dim ond paentiwr golygfeydd diddorol mohono: roedd ei lygad am ddychan yn llenwi bron pob lluniad o'i waith â throeon bywyd a'i bathos. Dylanwadwyd ar Rowlandson gan y Ffrancwyr yn arbennig - arlunwyr Rococo megis Watteau a Fragonard. O'r ysgol honno y cafodd ei ddiddordeb mewn lliwio cain wedi'i gyfuno â chyfansoddiadau lled-wledig y gellid eu dehongli fel alegori. Agwedd arall ar draddodiad celf Ffrainc yw'r tirlun pur, ac fe berffeithiodd Rowlandson ei arddull yn hyn o beth dros lawer o flynyddoedd gan gynhyrchu astudiaethau niferus o'i arsylwi.

Gwaith Rowlandson yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mae'r rhan fwyaf o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o waith Rowlandson yn astudiaethau tirlun ym Mhrydain, gyda'r mwyafrif yn dylunio tirlun Cymru. Syr John Williams, sefydlydd y Llyfrgell, a brynodd y lluniadau Cymreig gan ddeliwr yn Llundain yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Maent bron i gyd yn lluniadau pin a golch yn null traddodiadol gweithiau topograffyddol Prydeinig ddiwedd y 18fed ganrif. Cawsant i gyd eu tynnu yn y fan a'r lle ac maent yn dangos dawn Rowlandson i greu golygfa ddymunol gyda gwaith golch grymusol a rhydd.

Yn 1797 teithiodd yr awdur Henry Wigstead o gwmpas Cymru yng nghwmni "my friend Mr Rowlandson". Mae'n debygol fod yr arlunydd wedi'i gyflogi nid yn unig fel cwmni i'r awdur ond hefyd fel arlunydd ar gyfer cynllun i gyhoeddi hanes taith fer drwy Gymru. Cyhoeddodd Wigstead ei gyfrol Remarks on a tour to North and South Wales yn 1799 gyda 22 acwatint ar sail lluniadau Rowlandson sydd yn awr yng nghasgliad y Llyfrgell, yn ogystal ag esiamplau o'i luniadau yntau mewn llaw galed a braidd yn wasaidd.

Mae'r gyfres yn ddiddorol oherwydd nid yn unig y mae'n portreadu safleoedd crand fel Castell Cas-gwent neu Bont Aberglaslyn, ond hefyd pentrefi anadnabyddus megis Castellnewydd Emlyn. Yn ei ddarlun o Aberystwyth gwelir yn amlwg hoffter Rowlandson o fywyd a chyffro. Fel casgliad mae'r lluniadau hyn yn gosod ger ein bron ddarlun byw o fywyd cefn gwlad yn ystod haf 1779 trwy lygaid arlunydd a oedd yn medru cyfuno tirlun bictwrésg ag arsylwi gofalus.

Cofnodi tirwedd

Roedd Rowlandson yn rhan o'r hen draddodiad Prydeinig o gofnodi'r tirwedd a chyfuno celf gyda rhyddiaith neu farddoniaeth i greu gwaith llenyddol. Wrth weithio yn y genre honno, yr awdur fyddai'n penderfynu pa luniadau i'w cynnwys ac mae'r acwatintau yn dangos bod yn well gan Wigstead ddarluniau syml heb amwysedd.

Mae gan y Llyfrgell nifer o luniadau taith ac mae rhai Rowlandson gyda'r goreuon. Efallai mai ei gyfansoddiad gwychaf yw'r dyfrlliw mawr o Ddolbadarn lle mae'n cyferbynnu'r twristiaid boneddigaidd yn cychwyn ar eu hymchwil am y pictwrésg ar Lyn Padarn â'r werin sydd ond yn medru rhythu ar yr ymwelwyr mewn rhyfeddod.

Darluniau Thomas Rowlandson

Entrance to Ambwick [i.e. Amlwch] Harbour, Anglesey Cyfeirnod: D2875
[Cynfal near Hugh Llwyd's Chair] Cyfeirnod: PA2829
Market day at Aberistwith Cyfeirnod: PB04104
[Chepstow Bridge] Cyfeirnod: PB04618
Conway Castle Cyfeirnod: PD02457
Llangollen Cyfeirnod: PD09357
From Langollen Bridge Cyfeirnod: PD09358
Bank of the Dee at Langothlen Cyfeirnod: PD09359
Bank of the Dee at Langollen Cyfeirnod: PD09360
Road to Pont Aberglaslyn Cyfeirnod: PD09361
Valle Crucis Abby [sic] Cyfeirnod: PD09362
The Pilar of Elisig near Valle Crucis Cyfeirnod: PD09363
North Wales Corwen Cyfeirnod: PD09364
Watterfal [sic] between Conway and Lanrwst Cyfeirnod: PD09365
Conway Castle Cyfeirnod: PD09366
Conway Castle Cyfeirnod: PD09367
Conway Castle Cyfeirnod: PD09368
The King's apartments in Conway Castle North Wales Cyfeirnod: PD09369
Penmaen Mawr Cyfeirnod: PD09370
Penman Marw [sic] near Lord Penrynn Cyfeirnod: PD09371
Canalfon [sic] Castle north Wales Cyfeirnod: PD09372
Bethgelart, foot of Snowdon Cyfeirnod: PD09373
[Nant Mill] Cyfeirnod: PD09374
Bethkellart Bridge Cyfeirnod: PD09375
Bethgellert Inn Cyfeirnod: PD09376
Near Bethgelart Cyfeirnod: PD09377
Near Bethgelert Cyfeirnod: PD09378
Road to Pont Aberglassin Cyfeirnod: PD09379
Cascade near Dolgelly Cyfeirnod: PD09380
Near Dolgelly Cyfeirnod: PD09381
Between Dolgelly and Machinleth Cyfeirnod: PD09382
Between Dolgelly and Machinleth Cyfeirnod: PD09383
Aberistwith N[orth] W[est] Cyfeirnod: PD09384
Near Aberistwith Cyfeirnod: PD09385
Newcastle Cyfeirnod: PD09386
Newcastle Cyfeirnod: PD09387
Emlyn Cyfeirnod: PD09388
Neath Cyfeirnod: PD09389
[Chepstow Castle] Cyfeirnod: PD09390
[Chepstow Castle] Cyfeirnod: PD09391
Part of west Hall Ragland Cyfeirnod: PD09392
[Iron smelting at Neath Abbey ?] Cyfeirnod: PD09393
[L]angothlen Hill in the road to Ruthin Cyfeirnod: PD09394
Near Newcastle Cyfeirnod: PD09395
Vale of Langothlen, north Wales Cyfeirnod: PD09396
Mounting steps outside a farmhouse Cyfeirnod: PD09397
[View in Wales] Cyfeirnod: PD09398
Near Dolgelly Cyfeirnod: PD09400
Raglan Castle Cyfeirnod: PD09401
Conway Castle and colledge Cyfeirnod: PD09402
Conway Castle Cyfeirnod: PD09403
Dinas Braun Castle near Llangollen Cyfeirnod: PD09404
Dinas Brane Llangollen Cyfeirnod: PD09405
The abbey window of Vally Crusis near Langollen Cyfeirnod: PD09406
[The procuress] Cyfeirnod: PE1056
[Sailing scene] Cyfeirnod: PE1057
[Street scene] Cyfeirnod: PE1058
Colswick, the seat of John Masters Esq. near Nottingham Cyfeirnod: PE1059
[Landscape with mansion set upon a cliff] Cyfeirnod: PE1060
Obelisk St. Georges Fields Cyfeirnod: PE1061
French Post house Cyfeirnod: PE1062
[Man and woman strolling in the country] Cyfeirnod: PE1063
[A market square, France?] Cyfeirnod: PE1065
The embarkment Cyfeirnod: PE1095
A spitfire Cyfeirnod: PZ50
[Harp and voice] Cyfeirnod: PZ00051
[The ballad singer] Cyfeirnod: PZ00052
[New Inn] Cyfeirnod: PZ89
[Landscape with ox cart] Cyfeirnod: PZ90
[Fishermen by stone bridge] Cyfeirnod: PZ91
Snowdon from Llanberis lakes Cyfeirnod: PD09399
Ivy bridge Cyfeirnod: PZ92