Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yr oedd Charles Norris yn arlunydd nad oedd yn dibynnu ar arlunio i ennill ei fywoliaeth. Ymddengys iddo gynhyrchu ei waith oherwydd diddordeb yn y testun yn hytrach na'i fod wedi'i gomisiynu i'w wneud.
O ganlyniad i'w fywyd cynnar yn Norwich, dwyrain Lloegr, yr oedd ganddo ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o bensaernïaeth Ffleminaidd. Ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd nifer fawr o enghreifftiau o'r bensaernïaeth hon yn dal ar gael yn Ninbych-y-pysgod, ac ymddiddorai Norris ynddynt o safbwynt hanes ac estheteg.
Bu Norris yn gyfrifol am nifer o astudiaethau o Gymru, gan ganolbwyntio ar adeiladau fel ffordd o fynegi diwylliant y boblogaeth frodorol. Ychydig iawn a wyddom am ei gysylltiadau gyda'i gyfoeswyr, ond mae ei bortread o John Linnell (1792-1882), sydd erbyn hyn yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod, yn awgrymu ei fod yn wybyddus ymhlith arlunwyr Llundain. Ni arddangoswyd ei waith yn y Royal Academy na'r British Institution, ac ni cheir cofnod amdano yn y gweithiau safonol ar gelf Brydeinig. O safbwynt Cymreig, roedd Norris yn arlunydd a gofnododd nifer o adeiladau sydd wedi diflannu erbyn hyn, ac felly mae'n bwysig fel arlunydd hynafiaethau a thirlun.
Mae Etchings of Tenby, a gyhoeddwyd fel llyfr o brintiadau, yn waith ymchwil ardderchog. Yn ei ragymadrodd pwysleisiodd mai ef ei hun oedd yn gyfrifol am yr holl waith a'i fod wrthi'n gweithio ar gyfrolau tebyg yn ymwneud ag ardaloedd eraill yng Nghymru.
Dengys gwaith Charles Norris ei fod yn arlunydd a chanddo'r gallu i ysgythru delweddau glân sy'n llwyddo i gyfleu awyrgylch ei dref fabwysiedig. Yn lleol y mae'n fawr ei barch, ac efallai bod y diffyg sylw a roddir iddo'n genedlaethol yn adlewyrchu'r ffaith iddo ganolbwyntio cymaint ar un man a'r dirgelwch ynghylch ei benderfyniad i symud i Gymru i fyw.