Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'r tîm fu'n gweithio ar y cynllun hwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymdrechu'n galed i ddarganfod pwy sy'n dal hawlfraint y gweithiau yn y casgliad o weithiau celf mewn ffrâm.
Dechreuwyd y gwaith trwy gysylltu â Chyngor y Celfyddydau, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Academi Frenhinol Cymru, a defnyddio'r ffynonellau gwerthfawr sydd ar gael yn y Llyfrgell ei hun.
Defnyddiwyd y rhyngrwyd i wirio dyddiadau geni a marw yr arlunwyr. Y ffynhonnell fwyaf ddefnyddiol oedd y Rhestr Unedig o Enwau Artistiaid (Union List of Artists' Name, ULAN) sy'n cael ei chynnig fel rhan o Gynllun Geirfa Getty (Getty Vocablulary Project).
Eiddo y Llyfrgell Genedlaethol yw mwyafrif llethol y gweithiau sy'n ymddangos yn y catalog, ond y mae yna eithriadau. Gosodwyd rhai o'r gweithiau ar adnau yn y Llyfrgell, ac y maent yn dal yn eiddo i'r adneuwyr. Mewn achosion lle rhoddwyd caniatâd mae'r darluniau hyn ar gael yma; dylid cysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau gydag unrhyw ymholiad.
Lle roedd hynny'n bosib mae perchnogion hawlfraint y gweithiau wedi rhoi eu caniatâd. Ni lwyddwyd i ddarganfod pwy sy'n dal hawlfraint rhai gweithiau, neu nid oedd hi'n bosib dweud pwy oedd yn gyfrifol am greu gwaith arbennig. Mewn achosion o'r fath penderfynwyd cynnwys y delweddau ond gan ofyn i berchnogion hawlfraint neu i rywun sydd â gwybodaeth bellach amdanynt i gysylltu â'r Llyfrgell. Gall perchnogion hawlfraint un ai argraffu'r ffurflen hawlfraint, sydd ar gael fel dogfen pdf, a'i danfon at y Llyfrgell neu fe allant drafod y sefyllfa gydag aelod o staff yr Adran.
Petai unrhyw un sy'n dal hawlfraint am i ddelweddau o'u gweithiau gael eu tynnu i ffwrdd o'r catalog bydd y Llyfrgell yn falch o wneud hynny ar gais y deiliad. Bydd hi'n dal yn bosib i chwilio'r cofnod am y darlun ond fydd hi ddim yn bosib gweld delwedd o'r darlun ei hun.
Gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau fod y wybodaeth yn y catalog yn wybodaeth gywir. Gofynnwn ichi gysylltu â ffraworks(at)llgc.org.uk am unrhyw beth y credwch y gellid neu y dylid ei newid neu gywiro.