Symud i'r prif gynnwys

 

Mae gan waith Shani Rhys James swyn sy’n ddigyffelyb i waith artistiaid eraill. Mae hi'n un o artistiaid ffigurol cyfoes amlycaf Cymru ac mae hefyd yn enwog yn rhyngwladol.

Mae’r gwaith ‘Studio with Gloves’ yn crynhoi i’r dim waith Shani Rhys James sydd yn fawr, pwerus, amrwd, emosiynol, beiddgar, di-lol, egnïol, heriol ac weithiau’n annifyr, lle mae elfennau dychmygus ac arsylwadol yn cyd-fodoli’n aml. Yn ei chyfansoddiadau haniaethol mae’n chwilio am y gwirionedd ac mae'n adlewyrchu ei gweledigaeth o'r cyflwr bydol. Mae ‘Studio with Gloves’, fel llawer o'i gweithiau, yn hunan-bortread lle mae'r cyflwr seicolegol yn ganolog i'r gwaith. Yn y gwaith yma mae'r artist yn ymddangos yn fach yn ei stiwdio anhrefnus.

Mewn cyfweliad gyda Jo Manzelis i’r 'Wales Art Review' nododd Shani Rhys James iddi ymgolli mewn paentiadau stiwdio am nifer o flynyddoedd gan ddatgan eu bod yn ymwneud ag edrych a darganfod y berthynas rhwng gwrthrychau anghyfarwydd. Roedd yn synfyfyrio ar ei chynefin yn y stiwdio, yn edrych ar un gwrthrych yn erbyn y llall - y menig wedi eu taflu o'r neilltu, y clytiau, y tiwbiau paent, y tuniau. Eglurodd yr artist y symbolaeth fel byd ar raddfa fach o ddeunyddiau diwydiannol a broseswyd, yn aml yn wenwynig i'r artist. Dywedodd, ac fe welir yn y llun, y byddai'n rhoi croes fawr 'wenwynig' ar y tuniau gwyn o baent plwm na ddefnyddiai bellach.

Yn aml, mae'n defnyddio menig yn symbolaidd yn y gweithiau sy'n arddangos ei stiwdio, efallai i gyfleu ei hofn o'r broses emosiynol o beintio ac felly yr angen i warchod ei dwylo. Roedd ei thad yn llawfeddyg ac anfonai fenig llawfeddyg ati'n gyson i’w diogelu rhag y plwm yn y paent. Fel y dywedodd y beirniad celf Edward Lucie-Smith: 'Mae hi wedi ymroi iddo, ond mae hefyd yn teimlo dan fygythiad ganddo'. Nid yw hyn yn cael ei gyfleu yn fwy pwerus yn unman nag yn y gwaith hwn lle teimlwn bod yr artist yn boddi mewn môr o baent ac annibendod yn ei stiwdio ei hun. Dadleua Edward Lucie-Smith hefyd bod: 'annibendod y stiwdio, gyda'r tuniau a’r tiwbiau yn cyfleu artist sydd efallai’n byw mewn lleoliad gwledig ynysig, ond sy’n methu dianc yn llwyr rhag gyd-destun y gymdeithas ddiwydiannol fodern'.

Mae Shani Rhys James yn cydnabod ei bod yn rhoi delwedd braidd yn enigmatig yn ei gweithiau gan roi rhyddid i’r gwyliwr eu dehongli fel y mynna.