Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'r peintiad olew yma o Gastell Dolbadarn ger Llanberis yng ngogledd Cymru yn astudiaeth ar gyfer llun diploma gan Joseph Mallord William Turner sy'n cael ei gydnabod fel yr arlunydd tirlun Prydeinig pwysicaf erioed. Cafodd y darlun diploma hwn ei arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1800 ac yna ei gyflwyno i'r Academi Frenhinol ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae'n astudiaeth felly ar gyfer y peintiad olew pwysicaf o yrfa gynnar yr artist. Cafodd pennill am dynged Owain Goch ap Gruffydd ei gynnwys ochr yn ochr â’r darn diploma yn arddangosfa 1800.
Carcharwyd Owain Goch ap Gruffydd am ugain mlynedd yn 1257 gan ei frawd Llywelyn ap Gruffydd / Llywelyn ein Llyw Olaf (Tywysog brodorol olaf Cymru) yng Nghastell Dolbadarn am wrthryfela. Roedd yn ddigwyddiad trasig yn hanes rheoli brodorol Cymreig. Yn hytrach na pheintio’r union olygfa’n llythrennol fel y digwyddodd, mae gwaith Turner yn crybwyll y digwyddiad drwy’r awyr, y ffigyrau yn y blaen, a phresenoldeb gweladwy y tŵr bygythiol. Portreir Owain Gwynedd yn gwisgo tiwnig goch ac yn cael ei arwain at y castell gan y milwyr. Rydym yn gwybod i Turner wneud pum taith o amgylch Cymru rhwng 1792 a 1799 yn chwilio am dirluniau darluniadwy. Yn ystod ei ymweliad ym 1799 creodd lyfr o frasluniau o Ddolbadarn a arweiniodd at y gwaith terfynol. Cedwir llyfr brasluniau Dolbadarn yn y Tate Britain. Roedd chwedlau, hanes, cestyll a thirwedd fynyddig ddramatig Cymru’n denu Turner. Gwyddom hefyd i Turner ddarllen yn eang am hanes Cymru, yn cynnwys gweithiau Thomas Pennant ac roedd felly’n gyfarwydd â hanes y tywysogion Cymreig.
Gorwedd athrylith Turner yn ei allu i ddysgu o'r Hen Feistri, ond hefyd i wrthryfela a chreu ffyrdd newydd o ddarlunio tirluniau dychmygus trwy ei ddefnydd unigryw o olau. Chwyldrodd ei ddefnydd o strociau brwsh rhydd a’i liwio grymus dirlunio i genedlaethau'r dyfodol. Disgrifiodd John Ruskin, y beirniad celf blaenllaw o Oes Fictoria, Turner fel 'tad y gelfyddyd fodern'.
Gweler hefyd Turner a Chymru