Symud i'r prif gynnwys

 

Roedd yr artist Cymreig Richard Wilson o Benegoes, ger Machynlleth yn dirluniwr arloesol Prydeinig, ond fel y gwelir o’r gwaith hwn roedd hefyd yn bortreadwr medrus iawn. Er nad chofnodir iddo gael unrhyw addysg ffurfiol, roedd ganddo wybodaeth helaeth o'r clasuron a gafodd ddylanwad mawr ar ei waith. Symudodd i Lundain ym 1729 i hyfforddi fel portreadwr. Creodd Wilson y gwaith cynnar yma o Catherine Jones, Colomendy tua 1740, yn fuan ar ôl cwblhau ei brentisiaeth chwe blynedd o dan y portreadydd Thomas Wright. Roedd yr eisteddwraig yn gyfnither i’r artist ac yn berchennog Neuadd Colomendy, ger Llanferres, Sir Ddinbych. Bu farw Richard Wilson mewn tlodi ac yn gymharol ddinod yn Neuadd Colomendy ym mis Mai 1782, a lle bu’r eisteddwraig hefyd farw bedair blynedd yn ddiweddarach. Dadleua’r hanesydd celf David H. Solkin bod pob un o'r portreadau a baentiodd yn y cyfnod yma cyn ei daith i'r Eidal '... yn cadw’n fras at ddulliau prif feistri Llundain yn y cyfnod, megis Thomas Hudson ac Allan Ramsay'. Mae'r gwaith hwn o ddiddordeb felly, gan ei fod yn un o'r portreadau olaf iddo eu creu cyn iddo fynd i'r Eidal lle’r arallgyfeiriodd, gan ddod yn un o artistiaid tirlun mwyaf ei gyfnod.

Dychwelodd i Lundain ym 1757 lle sefydlodd ei hun mewn stiwdio yn y Great Piazza, Covent Garden fel arlunydd tirluniau yn yr arddull glasurol ' grande' o olygfeydd Eidalaiddg a thirweddau llenyddol clasurol.  Tyfodd yn fusnes llewyrchus, gyda nifer o brentisiaid - un o'r rhain oedd yr arlunydd Cymreig enwog Thomas Jones (1742-1803). Yn fuan ar ôl hyn daeth Wilson yn un o aelodau sylfaenol yr Academi Gelf Frenhinol. Un o brif lwyddiannau Wilson oedd iddo agor llygaid ei gyd-artistiaid at wychder mawreddog Cymru, ei wlad enedigol, gan arwain y ffordd i genedlaethau o artistiaid y dyfodol archwilio a chofnodi ei rhyfeddodau. Yng nghanol yr 1760au peintiodd Yr Wyddfa o Lyn Nantlle (Snowndon from Llyn Nantlle), Castell Caernarfon a Chader Idris yn ogystal â golygfeydd o Dde Cymru. Mae braslun ar gyfer ei lun o Gastell Conwy a grëwyd gan Wilson ynghanol y 18fed ganrif hefyd yn rhan o'n casgliad yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel y dywedodd yr hanesydd celf Peter Lord: ‘Mae ei beintiadau wedi cyfrannu’n helaeth at ddatblygu tirwedd Cymru i fod yn eicon sy’n cynrychioli’r Enaid Cenedlaethol.’