Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
David Griffiths yw un o arlunwyr portreadau gorau Cymru. Mae'r gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad mawr o weithiau yr artist o Gaerdydd. Mae wedi peintio nifer fawr o aelodau mwyaf blaenllaw cymdeithas gyfoes Cymru.
Wedi cwblhau ei hyfforddiant yn y Slade School of Fine Art yn Llundain, ymsefydlodd ym mhrifddinas Cymru fel arlunydd portreadau. Mae Griffiths wedi datgan ei gred ei fod yn perthyn i draddodiad crefftus Cymreig y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ar beintio portreadau. Gwyra, felly, at y dull traddodiadol o baentio oherwydd ei ansawdd oesol a chaiff flas ar yr her dechnegol o beintio mewn olew. Mae defnydd Griffiths o wyn cryf, metalig yn ei weithiau yn tynnu sylw'r gwyliwr. Mae’n dadlau nad ei fwriad yw creu dadansoddiad seicolegol o'i eisteddwr, ond i ddal gwir debygrwydd, a thrwy hynny efallai gwelir dealltwriaeth ddyfnach o'r gwrthrych yn dod i'r amlwg.
Mae'r portread yma a beintiwyd dros gyfnod o chwe mis yn dangos Shane Williams, arwr rygbi Cymru, yn eistedd yn ei ystafell wisgo yng Nghaerdydd cyn ei gêm olaf dros ei wlad yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr 2011. Mae neges i’r gwyliwr ar esgidiau’r chwaraewr rygbi. Mae yna ymdeimlad cryf o bresenoldeb yn y gwaith, fel petaem wedi dal y chwaraewr mewn hwyliau myfyrgar cyn ei gêm olaf.