Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd Gwen John yn arlunydd o fri rhyngwladol. Fe’i ganwyd yn Hwlffordd, Sir Benfro, de-orllewin Cymru yn 1876. Astudiodd yn y Slade School of Fine Art, Llundain yn 1895 ac o 1904 ymlaen treuliodd y rhan fwyaf o'i hamser ym Mharis. Tra'r oedd yno, bu'n astudio yn Ysgol Whistler ac yn modelu a dechreuodd garwriaeth danbaid gyda'r cerflunydd enwog Auguste Rodin.
Cysgodwyd Gwen John gan enwogrwydd ei brawd iau yr artist Augustus John (1878-1961) yn ystod ei bywyd. Dechreuodd ei gwaith ddenu diddordeb tua diwedd ei bywyd, ond dim ond yn y degawdau diwethaf y gwelwyd adfywiad mawr yn y gwerthfawrogiad o waith Gwen John. Erbyn heddiw mae’n derbyn canmoliaeth ryngwladol fel un o'r artistiaid modernaidd cyntaf gan ragori ar enwogrwydd ei brawd.
Y corff benywaidd wedi ei leoli mewn adeilad yw un o brif bynciau gwaith Gwen John, ac ar un adeg dehonglwyd hyn ar gam fel cyfeiriad at ei chymeriad meudwyaidd, ond fel y dadleuai ei brawd Agustus John, '... nid oedd hi'n ddiwair na thawedog, ond yn gariadus a balch'. Cymherir ei gwaith yn aml â’r darluniau enwog a grëwyd gan yr artist o'r Iseldiroedd Johannes Vermeer (1632-1675).
Crëwyd y darlun olew ar fwrdd hwn yn yr arddull o beintio sych gyda brwsh impasto ym Mharis, o bosibl wrth i’w pherthynas â Rodin ddod i ben, ac ar ôl marwolaeth sydyn ei chwaer-yng nghyfraith Ida John, gwraig Augustus ym 1907. Gwnaeth Gwen John, gydag anogaeth Rodin, wneud ymdrech hunanymwybodol i ailgydio mewn peintio yn ystod y cyfnod hwn, gan greu rhai o’i lluniau mwyaf adnabyddus, tra'r oedd hi ar yr un pryd yn brwydro yn erbyn iselder a salwch ysbeidiol. Roedd hyn yn y cyfnod cyn iddi ymddiddori fwyfwy yn y ffydd Gatholig. Mae cynnwys y darlun yn gadarn a chytbwys, o achos y ffurfiau a’r siapiau geometrig solet. Mae ymdeimlad o lonyddwch yn perthyn i'r darlun, ond mae yma hefyd ymdeimlad o anesmwythyd oherwydd y dilledyn sydd wedi cael ei daflu dros ddarn o ddodrefn yn y cefndir. Mae ei gwaith yn ein hatgoffa o beintio ôl-argraffiadol, gan iddi ddefnyddio strociau brwsh bach ac arlliwiau clos. Mae’n gwneud marciau hyderus ac mae ei defnydd o liw a thôn yn llawn mynegiant, heb orwneud y golau a’r tywyll.
Mae’r holl waith a grëodd yn ystod y cyfnod hwn mewn lleoliadau preifat – yn bennaf yn ei hystafell mansard ym Mhrovence, lle byddai’n aros yn ofer am ymweliadau Rodin. Roedd felly’n peintio tra'r oedd yn aros. Fel y nodwyd gan David Fraser Jenkins: '... mae eu pŵer yn deillio o’u darluniad cywrain eithafol, sy'n awgrymu breuder cyson'. Eto i gyd mae paradocs yn perthyn i’r gweithiau hyn oherwydd eu bod hefyd yn cyfleu cryfder mawr ac annibyniaeth ysbrydol, gan fod y gwaith yn darlunio stiwdio artist fenywaidd annibynnol a oedd wedi teithio o dde-orllewin Cymru i Baris i fyw fel artist, gan dorri tir newydd ar ddechrau'r 20fed ganrif.