Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ganwyd Benjamin West yn Springfield, Pennsylvania yn 1738, ac roedd yn arlunydd hanes mynegiannol grymus. Roedd West yn hyderus iawn pan oedd yn ifanc a theimlai mai dyn a ragdynghedwyd i enwogrwydd ydoedd. Cychwynnodd fel peintiwr portread hunanddysgedig yn Pennsylvania ond cafodd ei gomisiynu’n fuan i ddarlunio golygfeydd hanesyddol. Gyda chymorth y Gweinidog Anglicanaidd, y Parchedig William Smith, teithiodd i’r Eidal lle cafodd ei groesawu fel artist dan nawdd ac o ganlyniad medrodd deithio i Lundain a dod yn arlunydd hanesyddol i'r Brenin Siôr III ym 1772. Daeth yn adnabyddus yn Llundain fel y ‘Raphael Americanaidd’. Daeth yn fwyaf adnabyddus am ei beintiadau hanesyddol yn y traddodiad neo-glasurol. Daeth yn ail lywydd yr Academi Frenhinol ym 1792 ar ôl chwarae rôl allweddol i sicrhau nawdd ar gyfer yr Academi. Mae ei waith enwocaf 'The Death of General Wolfe' o 1770 yn torri tir newydd gan iddo beintio hanes a oedd yn cynnwys elfennau o Ramantiaeth a Realaeth. Trwy'r gwaith hwn, llwyddodd yn ddod i ben ag adfywio diddordeb yn y genre a ddaeth yn adnabyddus fel peintio hanes modern. Cafodd ei gomisiynu’n ddiweddarach i greu gwaith ar gyfer Castell Windsor a Chapel Sant Siôr a arweiniodd at gomisiynau pellach yn y gymuned grefyddol, a daeth yn adnabyddus fel prif beintiwr pynciau crefyddol yn Lloegr.
Mae'n amlwg felly paham y dewiswyd West i beintio’r portread hwn o Dr Richard Price. Roedd Dr Richard Price yn athronydd moesol, yn bregethwr ac yn fathemategydd Cymreig. Roedd hefyd yn anghydffurfiwr â diddordeb dwfn mewn gwleidyddiaeth. Cafodd ei eni yn Llangeinwyr, Morgannwg, De Cymru ond bu’n byw a gweithio am y rhan fwyaf o'i oes yn Llundain. Dangosir Dr. Richard Price yn ei stydi, yn darllen llythyr o 1784 oddi wrth Benjamin Frankin a oedd yn gyfaill agos i Price am flynyddoedd lawer. Ysgrifennodd Price yn ei ddyddiadur llaw-fer am eistedd i’r portread hwn ac mae’r dyddiadur yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW MS 20721A). Dyma’r unig bortread swyddogol o’r athronydd moesol hynod bwysig yma, er bod dau fersiwn arall yn bodoli.