Symud i'r prif gynnwys

 

Disgrifiodd y Prif Weinidog David Lloyd George Christopher Williams fel 'un o’r arlunwyr mwyaf dawnus o Gymru'. Roedd gan yr artist edmygwyr yn haen uchaf y gymdeithas yn ystod ei oes, ond dim ond yn ddiweddar y gwir werthfawrogwyd ei waith. Er iddo fod yn arlunydd portreadau poblogaidd i’r cyfoethog a'r enwog yn y gymdeithas, dibrisiwyd ei weithiau epig ar themâu Beiblaidd a mytholegol gan feirniaid ar ddechrau'r 20fed ganrif gan eu bod yn anffasiynol yn y cyfnod.

Roedd Christopher Williams yn artist dawnus ac yn Gymro brwd a anwyd ym Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, de Cymru yn 1873. Yn yr 1890au astudiodd yn yr Ysgol Hyfforddi Celf Genedlaethol yn Ne Kensington, Llundain (y Coleg Celf Brenhinol heddiw) ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol lle dysgodd i barchu’r Hen Feistri. Roedd wedi ymsefydlu yn Llundain erbyn 1904, ond byddai’n aml yn ymweld â Chymru ac yn ystod un o'i ymweliadau galwodd ar Syr John Williams (1840-1926) meddyg, barwnig a sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn ei gartref ym Mhlas Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn bwriadu trafod sefydliadau cenedlaethol newydd Cymru gyda Williams - ond gadawodd gyda chomisiwn o 100-gini i greu’r portread yma o Syr John. Fe’i dylanwadwyd yn drwm gan farn Syr John William ar Gymru a 'Chymreictod' a chafodd ei gyflwyno i lawer o ysgolheigion amlwg Cymreig ganddo.

Roedd Williams yn benderfynol o fod yn beintiwr 'Cymreig' a daeth yn rhan o'r hyn a elwir yn yr Ail Adfywiad Celtaidd. Ymwelodd â Chyngres Geltaidd 1904 yng Nghaernarfon lle cynhyrfwyd Williams i roi llais i’w 'Gymreictod'. Cafodd lawer o ysbrydoliaeth o’r Mabinogi a hanes Cymru a pheintio darluniau a ysbrydolwyd gan y themâu yma mewn traddodiad Ewropeaidd dan ddylanwad yr Hen Feistri.

Erbyn heddiw, mae gwaith Williams yn cael ei edmygu a’i lawn werthfawrogi am ei dreiddgarwch gwych, ei berthnasedd cenedlaethol a’i ddawn arbennig. Ysgrifennodd Williams yn 1894: '... Rwy'n gobeithio y bydd Llundain, o fewn dim, yn gweld mwy o Gymry yn cymryd rhan flaenllaw mewn Celf. Yr wyf yn argyhoeddedig o hyn, pan fydd Celf yn cael ei wareiddio yng Nghymru, y bydd Cymru yn arwain ar beintio a cherflunio fel y gwneir ar hyn o bryd mewn Cerddoriaeth.’