Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
04.02.2020
Canterbury Tales Geoffrey Chaucer yw'r gwaith llenyddol cynhwysfawr gyntaf, mewn unrhyw iaith, i’w ddatblygu'n ap ar gyfer y we a ffonau symudol, diolch i brosiect newydd gan academyddion yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Prifysgol Saskatchewan (USask), a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae tîm rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Saskatchewan wedi cynhyrchu’r ap gwe a ffôn symudol cyntaf o The Canterbury Tales, Geoffrey Chaucer - y gwaith llenyddol cynhwysfawr gyntaf i gael ei ehangu gan ysgolheictod newydd, mewn unrhyw iaith, a’i gyflwyno ar ffurf ap.
“Rydyn ni eisiau i’r cyhoedd, nid academyddion yn unig, i weld y llawysgrif fel y byddai Chaucer yn debygol o fod wedi meddwl amdani - fel perfformiad oedd yn cymysgu drama a hiwmor,” meddai Athro Saesneg Prifysgol Saskatchewan (USask) Peter Robinson, arweinydd y prosiect.
“Rydym wedi ein hargyhoeddi, dros lawer o flynyddoedd, mai’r ffordd orau o ddarllen y Tales yw ei glywed yn cael ei berfformio - yn union fel y byddwn yn dychmygu Chaucer ei hun yn ei berfformio yn llys Richard II.”
Bydd yr ap rhad ac am ddim yn rhifyn gyntaf ar gyfres sydd wedi’i chynllunio. Mae'r ap yn cynnwys perfformiad sain 45 munud o General Prologue y Tales - campwaith awdur pwysicaf yr iaith Saesneg cyn dyddiau Shakespeare - ynghyd â'r llawysgrif wreiddiol ddigidol. Wrth wrando ar y darlleniad, gall defnyddwyr gael mynediad i gynnwys ategol fel cyfieithiadau mewn Saesneg cyfoes, sylwebaeth, nodiadau a geirfa sy'n egluro ystyr geiriau’r Saesneg Ganol a ddefnyddiwyd gan Chaucer.
Mae'r ap, sy’n ffrwyth gwaith 10 mlynedd Robinson i ddigideiddio'r Canterbury Tales, yn cynnwys ymchwil newydd allweddol. Ynddo, ceir testun newydd o'r Prologue wedi'i olygu a’i greu gan ddarlithydd sesiynol USask Barbara Bordalejo, darlleniad cyfoes o'r Tales gan gyn-fyfyriwr USask Colin Gibbings, a chanfyddiadau unigryw am y Tales gan Athro yr Oesoedd Canol Richard North, Coleg Prifysgol Llundain. Cynigiodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei fersiwn ddigidol nhw o lawysgrif wreiddiol y Prologue ar gyfer yr ap.
Bu un o sêr Monty Python, sef y diweddar Terry Jones, a oedd hefyd yn arbenigwr ar yr Oesoedd Canol ac yn awdur ar ddwy gyfrol ddylanwadol ar Chaucer, yn allweddol wrth ddatblygu cynnwys yr ap. Mae ei gyfieithiad o The General Prologue ynghyd â’i lyfrau, i'w gweld yn y cyflwyniad a'r nodiadau. Yn ôl pob sôn, yr ap oedd y prosiect academaidd sylweddol olaf y bu Terry Jones yn rhan ohono cyn iddo farw.
Rhyddhawyd yr ap ar Android ac Apple IoS ychydig ar ôl pen-blwydd Terry Jones ar 1af Chwefror, a hynny er mwyn dathlu ei waith academaidd.
“Roeddem yn hynod falch bod Terry wedi medru gweld a chlywed yr ap hwn yn ystod wythnosau olaf ei fywyd. Roedd ei waith a’i angerdd am Chaucer yn ysbrydoliaeth inni,” meddai Robinson, sydd wedi ei gefnogi gan USask a Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau (SSHRC) wrth weithio ar y Tales. “Fe wnaethon ni drafod Chaucer yn helaeth a’i syniad ef oedd troi’r Tales yn berfformiad.”
Ni orffennwyd y Tales gan Chaucer adeg ei farwolaeth, felly does dim un testun cyflawn o’r Tales yn bodoli a rhaid i ysgolheigion fynd ati i’w ail-lunio gan ddefnyddio dros 80 o lawysgrifau gwahanol, y rhan helaeth ohonynt wedi eu hysgrifennu â llaw cyn 1500.
“Er bod gan yr ap ddeunydd a ddylai fod o ddiddordeb i bob ysgolhaig sy’n ymchwilio i waith Chaucer, mae wedi'i gynllunio'n arbennig i fod o ddefnydd i’r rheini sy'n darllen gwaith Chaucer am y tro cyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys, nid yn unig myfyrwyr prifysgol BA a phlant ysgol, ond, aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb personol yn Chaucer a'i weithiau,” meddai North o Goleg Prifysgol Llundain.
Mae prosiect y Canterbury Tales, a arweinir gan Robinson, ac sydd wedi’i leoli yn USask ers 2010, yn cynnwys carfan o fyfyriwr yn trawsgrifio’r 30,000 o dudalennau o’r llawysgrifau yn unigol i’r cyfrifiadur, a hynny er mwyn darganfod sut maent yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn perthyn i fersiwn gwreiddiol coll Chaucer.
“Mae’r ap yn allweddol i’r rheini sy’n anymwybodol o hanes cynhyrchu’r Canterbury Tales, a’r ffaith nad oedd ein cysyniad o awdur yn bodoli bryd hynny,” meddai Robinson. “Mae gennym lawer o lawysgrifau sydd wedi’u copïo â llaw dros gyfnod, ac mae Prosiect Canterbury Tales yn gweithio tuag at darganfod o ble y daethant, sut y cawson nhw eu creu a phwy a'u cynhyrchodd fel rhan o'r hanes.”
Dywedodd Robinson fod gan y tîm ddeunyddiau parod i ddatblygu o leiaf dau ap arall, yn benodol ar Miller’s Tale, yr ail stori yn y Canterbury Tales.
Datblygwyd yr ap ar y General Prologue o fersiwn Llawysgrif Hengwrt o’r Tales, a ystyrir fel y ffynhonnell fwyaf safonol o destun Chaucer, ac fe’i cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn dilyn gwaith cadwraeth a digideiddio arbenigol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, roedd modd cyflwyno’r delweddau o'r llawysgrif wreiddiol gyda’r deunydd i ddarllenwyr ar yr ap.
Mae ymchwil academaidd North ar y prosiect yn cynnwys sawl darganfyddiad newydd. Er enghraifft, daeth o hyd i dystiolaeth sy'n awgrymu bod Marchog Chaucer, un o brif gymeriadau'r Tales, yng ngwarchae Algeciras ger Gilbraltar, yn ne Sbaen, ym 1369, yn lle 1342-44, y dyddiadau a dybir gan lawer.
Creda North bod gosod y Marchog yn y gwarchae hwn yn golygu ei fod yn agosach at 50 oed pan fydd y darllenydd yn dod ar ei draws gyda’r pererinion eraill yn y Tabard yn y General Prologue – tua’r un oed â Chaucer ei hun.
Gellir dod o hyd i'r ap trwy chwilio “General Prologue” yn y PlayStore neu yn yr App Store.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Victoria Dinh
Cydlynydd Cyfathrebu a Chysylltiadau a’r Wasg
Prifysgol Saskatchewan
306-966-5487
victoria.dinh@usask.ca
---DIWEDD---