Symud i'r prif gynnwys

30.01.2020

Mae arddangosfa newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymdreiddio i fyd llenyddol yr artist graffig, y gwneuthurwr printiau a’r cyhoeddwr o fri rhyngwladol Paul Peter Piech.

Bydd Byd Llenyddol Paul Peter Piech, sy’n agor yn y Llyfrgell ar 1 Chwefror 2020, yn ddathliad o'i gyfraniad at gelf weledol yng Nghymru, yn ogystal â'r llenorion a bortreadwyd ganddo.

Ganwyd Piech i rieni Wcreinaidd yn Efrog Newydd yn 1920 ond treuliodd rhan helaeth o'i fywyd proffesiynol ym Mhrydain. Yn ffigwr cyfareddol a chrëwr dyfeisgar, cofir Piech yn bennaf am ei brintiau leino a phren mentrus a oedd yn cyfleu negeseuon i'w cynulleidfa. Wrth ddefnyddio’r cyfrwng  hwn, ymdriniodd ag ystod eang o faterion cymdeithasol a gwleidyddol yr 20fed ganrif.

Serch hynny, mae cyfran o waith Piech yn ymwneud â'r byd llenyddol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd Piech ei leoli ym Mhrydain lle arhosodd a phriodi Irene Tompkins, gan dreulio degawd olaf ei fywyd ym Mhorthcawl. Parhaodd i gynhyrchu posteri eiconig, ac mae  dylanwad y diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg yn amlwg iawn ar rai ohonynt. Yn ystod y cyfnod hwnnw cofleidiodd agweddau o’r bywyd Cymreig, o syniadau ynghylch hunaniaeth i draddodiadau fel yr Eisteddfod, ac ymestynnodd ei repertoire artistig drwy ddefnyddio'r Gymraeg yn llawer o'i weithiau.

Ymhlith ei weithiau yn yr arddangosfa fydd posteri print leino o ffigurau llenyddol Cymreig fel D. J. Williams a Harry Webb, yn ogystal â llenorion eraill, fel Stevie Smith ac Ezra Pound. Bydd gweithiau celf Piech yn cael eu gosod ochr yn ochr â’u blociau print leino gwreiddiol, ynghyd â thrysorau o gasgliad helaeth y Llyfrgell, megis llawysgrifau Dylan Thomas a llythyrau gan T. S. Eliot at David Jones.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Bydd Byd Llenyddol Paul Peter Piech yn gyfle gwirioneddol unigryw i ymwelwyr weld sut y dylanwadodd Cymru a’r byd llenyddol ar waith yr artist arloesol hwn. Mae'r arddangosfa'n enghraifft wych o sut y gellir cyfuno ein hamrywiaeth o gasgliadau; o weithiau celf trawiadol i drysorau archifol eiconig, er mwyn rhoi  gwell dealltwriaeth i ni ar agweddau o ddiwylliant Cymru’r 20fed ganrif. Yn ogystal, rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr â'r arddangosfa'n cael eu hannog i ddefnyddio’n casgliadau fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth bersonol, yn debyg iawn i’r modd y sbardunwyd  Piech gan ein diwylliant a’n llên."

Dywedodd Mari Elin Jones, Curadur Byd Llenyddol Paul Peter Piech:

“Mae wedi bod yn fraint curadu’r arddangosfa hon o waith arlunydd rhyngwladol pwysig, ac yn gyfle gwych i arddangos y gyfran o’i gasgliad a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn codi proffil Piech yma yng Nghymru, yn ogystal ag ysbrydoli ymwelwyr i archwilio casgliadau’r Llyfrgell ymhellach a rhoi cynnig ar argraffu fel Piech. ”

---DIWEDD---

Gwybodaeth Bellach

Elen Haf Jones
01970 632 534
post@llgc.org.uk