Symud i'r prif gynnwys

20 Mawrth 2020

Yn sgil y pryderon ynglŷn â lledaeniad COVID-19 ac er lles ein darllenwyr, ymwelwyr a staff, mae adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth wedi cau am gyfnod amhenodol. 

Bydd pob digwyddiad cyhoeddus ar safle'r Llyfrgell yn cael ei ohirio neu ganslo hyd at 22 Mehefin yn y lle cyntaf. 

Bydd mynediad i ystod eang o adnoddau digidol y Llyfrgell yn parhau trwy gydol y cyfnod hwn.

Bydd y Llyfrgell yn rhannu manylion am ddatblygiadau pellach trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan y Llyfrgell.