Symud i'r prif gynnwys

06.01.2020

Mae Meri Huws, Is Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi heddiw enwau’r Ymddiriedolwyr newydd sydd wedi’u penodi i Fwrdd y Llyfrgell yn dilyn cystadleuaeth agored. Bydd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Dr Anwen Jones a Dr Elin Royles yn cychwyn ar eu dyletswyddau ar 1 Mawrth 2020 am gyfnod o bedair blynedd.

Dywedodd Meri Huws:

“Mae’r Llyfrgell yn falch o fod wedi llwyddo i benodi unigolion ardderchog fel Ymddiriedolwyr ac i  wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell. Nid yw’r Llyfrgell yn ddiarth o gwbl i’r tair ohonynt a gwn eu bod yn awyddus fel finnau i weld y Llyfrgell nid yn unig yn parhau i ddarparu ei gwasanaethau craidd ond hefyd i chwilio am gyfleoedd i gynyddu effaith ei gwaith a dwyn rhagor o fudd i’n cymunedau, yn ogystal ag arloesi mewn meysydd perthnasol mewn byd sy’n newid mor gyflym. Rydym i gyd yn awyddus i weld y Llyfrgell yn cyfrannu’n adeiladol at fywyd y genedl yn ystod y blynyddoedd nesaf yma. Er bod edrych yn ôl yn bwysig, mae’n hanfodol ein bod ni’n edrych i’r dyfodol yn ogystal â chreu buddion i genedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd  Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:

“Rwy’n hynod falch fod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi llwyddo i benodi tri unigolyn  hynod ddisglair a phrofiadol fel Ymddiriedolwyr i  wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell. Bydd y tair ohonynt yn dod ag ystod eang o brofiadau a chymwyseddau gyda hwy i gyfoethogi aelodaeth  y Bwrdd.”

Bywgraffiadau:

Dr Gwenllian Lansdown Davies

Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies yn hanu o Fangor yn wreiddiol ac erbyn hyn wedi ymgartrefu gyda’i gŵr a’i phedwar o blant yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a gweithiodd am gyfnod yn Galisia a Brwsel cyn cwblhau gradd MScEcon a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Ward Glanyrafon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, treuliodd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa Leanne Wood AC yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007. Yn 2011, fe’i phenodwyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Cyhoeddiadau a Chynorthwyydd Golygyddol y cyfnodolyn ymchwil Gwerddon. Cychwynnodd ar ei swydd bresennol fel Prif Weithredwr Mudiad Meithrin yn 2014.

Dr Anwen Jones

Magwyd Anwen Jones yn Lledrod, Sir Ceredigion, ac mae hi’n dal i fyw yn lleol ar fferm yn Llanon. Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Tregaron ac aeth ymlaen i astudio ar gyfer gradd israddedig mewn Llenyddiaeth cymharol Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Bryste. Graddiodd yn 1992 a dychwelyd adref i briodi ac i fagu tair o ferched. Mae ganddi ddoethuriaeth ym maes theatrau cenedlaethol Ewrop ac mae hi wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd gan gynnwys cyfrolau wedi eu golygu ar Wil Sam, y dramodydd o Gricieth, ac Hywel Teifi Edwards, yr hanesydd diwylliannol enwog o Geredigion. Mae hi’n ynad heddwch, yn Ddirprwy Is Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn olygydd yr e-gyfnodolyn trawddisgyblaethol cyfrwng Cymraeg, Gwerddon.

Dr Elin Royles

Mae Elin Royles yn Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, lle bu’n gweithio ers 2003. Mae’n aelod o’r ganolfan amlddisgyblaethol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru - WISERD@Aberystwyth. Ymysg ei phrif ddiddordebau ymchwil mae gwleidyddiaeth diriogaethol a datganoli yn y DU, diplomyddiaeth is-wladwriaethol, cymdeithas sifil, a pholisi a chynllunio iaith.  Mae’n rhan o brosiectau ymchwil wedi eu hariannu gan yr ESRC a Horizon 2020 ac yn datblygu agenda o ymchwil sy’n cyfrannu at ddatblygiadau polisi yng Nghymru.  Mae wedi chwarae rolau arweiniol ar faterion cyfrwng Cymraeg o fewn yr Adran, a hefyd fel Cadeirydd cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae hi'n briod ac yn fam i ddau o blant ac yn byw yn Aberystwyth.

---DIWEDD---

Gwybodaeth Bellach

Carol Edwards
01970 632923    neu
carol.edwards@llyfrgell.cymru