Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cytuno gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ynglŷn â’r defnydd posibl o adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth i gefnogi ymateb y Bwrdd i argyfwng COVID-19.
Bu swyddogion o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ymweld â’r Llyfrgell i ystyried opsiynau gan gynnwys storio offer a chofnodion meddygol yn adeilad y Llyfrgell ynghyd â’r posibilrwydd o droi rhan o’r adeilad yn ysbyty dros dro. Mae’r maes parcio eisoes yn cael ei ddefnyddio gan staff y gwasanaeth iechyd ac mae’r Llyfrgell yn annog ei staff i wirfoddoli. Bydd y Llyfrgell hefyd yn dangos ei chefnogaeth i’r GIG trwy oleuo’r adeilad yn las bob nos Iau.
Caewyd adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth i’r cyhoedd a staff yr wythnos cyn diwethaf i gyd-fynd â chanllawiau i leihau lledaeniad y firws. Ond, er fod adeilad y Llyfrgell ar gau i’r staff a’r cyhoedd, mae mynediad i gasgliadau digidol y Llyfrgell yn parhau i fod ar gael ar-lein, 24 awr y dydd.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Yn ystod amser o argyfwng cenedlaethol rydym ni’n falch iawn o fod mewn sefyllfa i gynnig cymorth ymarferol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda trwy gynnig y defnydd o’n hadeilad. Ar yr un pryd, tra bod yr adeilad ar gau byddwn yn parhau i ddarparu mynediad i filiynau o eitemau arlein. Rydym yn hyderu y bydd defnydd o’r casgliadau hyn yn cael effaith bositif ar les a iechyd meddwl pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Mae’r Llyfrgell wedi gweld cynnydd yn y defnydd o gasgliadau digidol yn sgil yr argyfwng wrth i fwy o bobl ddefnyddio eu hamser gartref i bori drwy’r cyfoeth o gasgliadau sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys papurau newydd hanesyddol, llyfrau, mapiau, llawysgrifau, ffotograffau, archifau, sain, fideos a ffilm. Bydd y Llyfrgell yn parhau i gynyddu ei hymdrechion i amlygu’r casgliadau a’r adnoddau sydd ar gael arlein yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Rhian Haf Evans
post@llgc.org.uk neu 01970 632 938
Diwedd.