Symud i'r prif gynnwys

Bydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn arwain sgwrs banel ar 6 Tachwedd 2020 i drafod arwyddocâd a dyfodol archifau gwleidyddol Cymru. Ymhlith y panelwyr fydd rhai o wynebau cyfarwydd gwleidyddiaeth y genedl, sef Liz Saville-Roberts AS, Carwyn Jones AS, yr Athro Richard Wyn Jones a’r gohebydd seneddol Elliw Gwawr.  

O dan arweiniad Archif Wleidyddol Gymreig y Llyfrgell Genedlaethol, bydd digwyddiad ‘Gwleidyddiaeth y Gorffennol, Hanes y Dyfodol’ yn gyfle i drafod etifedd archifol ynghyd â gwerth dogfennaeth wleidyddol i’r rheiny sy’n ceisio cofnodi a dadansoddi hanes. 

Meddai Meri Huws, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gadeirio’r panel trafod arbennig. Bydd clywed barn dau wleidydd blaenllaw am y broses o greu gwaddol archifol yn ddifyr tu hwnt – ydyn nhw wedi teimlo’r angen hwnnw ac a yw rhywun yn medru gwneud hynny’n wrthrychol? Cawn glywed hefyd am bwysigrwydd ffynonellau craidd wrth ohebu ar ddigwyddiadau gwleidyddol ac o fewn ymchwil academaidd wrth eu dehongli yn hanesyddol.” 

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 

“Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn un o gonglfeini casgliadau’r Llyfrgell a bydd y digwyddiad hwn yn gyfle o’r newydd i edrych ar gyfraniad pwysig yr archif yma. Mewn oes ble mae pobl yn medru cael mynediad at wybodaeth ym mhob man, ac yn byw trwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol, mae’r angen am sicrhau ein bod yn casglu tystiolaeth ddogfennol am wleidyddiaeth Cymru ar gyfer defnyddwyr y dyfodol yn fwy pwysig nag erioed.” 

---DIWEDD--- 

Nodiadau 

Bydd ‘Gwleidyddiaeth y Gorffennol, Hanes y Dyfodol’ yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu i’r Saesneg ar y pryd. 

Gellir archebu tocyn ymlaen llaw ar gyfer sgwrs banel Gwleidyddiaeth y Gorffennol, Hanes y Dyfodol

 

Gwybodaeth bellach: 

Nia Dafydd 

post@llgc.org.uk 

 

**This press release is also available in English**