Symud i'r prif gynnwys

24.02.2020

“Yr etifeddiaeth  ffrwythlon honno o’r ganrif ddiwethaf” - dyna sut y cyfeiriodd Dave Berry, yr hanesydd ffilm y mae cymaint o golled ar ei ôl, at ddiwylliant ffilm Cymru. Mae’r dreftadaeth honno bellach yn cael ei dathlu mewn ffordd gwbl newydd – gyda chyfres o ddangosiadau ffilm ledled Cymru, i hyrwyddo cyhoeddiad ‘ap’ newydd blaengar, ar gael i’w lawrlwytho am ddim, Fframio’n Gorffennol / Picturing Our Past, a fydd yn adrodd stori ffilm a theledu Cymru drwy blethu geiriau a chlipiau ffilm o fewn un cynhyrchiad di-dâl.

Bydd y dangosiadau, a drefnir gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dan nawdd Canolfan Ffilm Cymru, yn paru ffilm o’r gorffennol gyda ffilm fwy cyfoes. Ar 27 Chwefror yn Sinema’r Phoenix, Ton Pentre, dangosir y ffilm ddogfen Today We Live (1937), gyda’i siotiau enwog o lowyr yn casglu glo mân ar domen, ochr yn ochr â Dark Horse (2015) - y ffilm ddogfen gynnes, arobryn am y ceffyl rasio enwog a brynwyd a hyfforddwyd gan syndicet o Gefn Fforest. Yna ar 5 Mawrth yn Yr Egin, Caerfyrddin bydd cyfle i weld Atgyfodi - ffilm newydd, bwerus y cyfansoddwr John Rea ynghyd â Tryweryn - the Story of a Valley (1965), a wnaed gan blant Ysgol Friars, Bangor.

Ar 23 Mawrth bydd Sinema’r Coliseum, Aberhonddu yn dangos Rhosyn a Rhith/Coming Up Roses (1987) - comedi apelgar sydd yn ddathliad hyfryd o fyd y sinema, yn portreadu’r Rex yn Aberdâr yn benodol - ynghyd â Cinema Memories - ffilm fer o atgofion melys trigolion Cwm Afan o fynychu a gweithio yn y sinema ‘slawer dydd. Bydd seren y brif ffilm - Dafydd Hywel - yn ymuno â’r gynulleidfa am sesiwn cwestiwn-ac-ateb ar y diwedd, a hefyd yn dilyn y dangosiad dilynol yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych ar 3 Ebrill, ble caiff y gynulleidfa hefyd gyfle i fwynhau’r ffilm ddogfen hwyliog, Dial-a-Ride. Bydd y daith yn gorffen ar 29 Mai gyda dangosiad o’r comedi chwerw-felys Gymreig newydd Denmark, yn Sinema Sadwrn, Llansadwrn.

Bydd yr ap Fframio’n Gorffennol /Picturing Our Past, a gyhoeddir gyda nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn diweddaru llyfr arloesol Dave Berry, Wales and Cinema, gyda thechnoleg ddigidol yn galluogi’r awduron, Colin Thomas a Iola Baines, i gynnwys clipiau o ffilmiau allweddol o orffennol sinematig Cymru.

Meddai Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol yn Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Nod yr ap hwn yw cyflwyno treftadaeth gyfoethog sinema Cymru i gynulleidfaoedd a dilynwyr newydd - ac rydym yn falch o fedru cynnwys enghreifftiau trawiadol o ffilm i ddod â’r hanes yma’n fyw, ar ffurf clipiau o ddelweddau symudol o bob degawd. Rydym yn gobeithio bydd yr esiamplau difyr yma yn ysbrydoli pobl i durio’n ddyfnach i’r hanes rhyfeddol hwn, gan ddarganfod y bobl a’r straeon y tu ôl i’r ffilmiau - ac o bosib i fynd ati i ychwanegu at yr hanes drwy greu a ffilmio eu straeon eu hunain!”

Meddai Colin Thomas (cynhyrchydd/gyfarwyddwr cyfresi hanes fel The Dragon Has Two Tongues, ac enillydd sawl gwobr megis y Prix Europa a thair gwobr BAFTA Cymru am y Rhaglen Ddogfen Orau):

“Mae’n gyffrous gallu anrhydeddu’r traddodiad gwneud-ffilmiau Cymreig yr ydw i wedi ymdrechu i gyfrannu ato, ac i alluogi cenhedlaeth newydd i ddarganfod mor gyfoethog yw’r traddodiad hwnnw.”

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae'r e-lyfr newydd yma yn ffordd gyffrous a blaengar o gyflwyno casgliadau clyweledol cyfoethog y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnig llwybr ffres a chyfoes i ddefnyddwyr o bob math fedru cyrraedd at y dreftadaeth apelgar hon. At hyn, mae'r daith ffilm sydd yn hyrwyddo'r e-lyfr yn ffordd ardderchog o fynd â'n ffilmiau i'r 'priffyrdd a'r caeau', gan estyn allan at gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru sydd o bosib erioed wedi gweld ffilmiau archifol ar y sgrin fawr, nag wedi gwneud y cyswllt rhwng yr hen a'r newydd yng nghyd-destun y sinema Gymreig."

Bydd lansiad swyddogol i’r ap ym mis Mai, gyda digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd.

Calendr y dangosiadau :
Nos Wener 7 Chwefror: Neuadd Ogwen, Bethesda (Atgyfodi / Tryweryn - the Story of a Valley) (wedi gorffen)
Nos Iau 27 Chwefror: The Phoenix, Ton Pentre (Dark Horse / Today We Live)
Nos Fercher 5 Mawrth:  Yr Egin, Caerfyrddin:  (Atgyfodi / Tryweryn - the Story of a Valley)
Nos Lun 23 Mawrth: Coliseum, Aberhonddu: (Coming Up Roses /Cinema Memories)
Nos Wener 3 Ebrill: Theatr Twm o'r Nant, Dinbych: (Coming Up Roses/ Dial-a-Ride)
Nos Wener 29 Mai: Sinema Sadwrn, Llansadwrn: (Denmark + ffilm fer i’w chadarnhau)

---DIWEDD---


Gwybodaeth bellach

Am gyfweliad/gwybodaeth bellach cysyllter â:

Colin Thomas
07974 927811   neu
colinthomas082@gmail.com

neu

Iola Baines
029 20710759 / 07910 183132   neu
iola.baines@llgc.org.uk