Symud i'r prif gynnwys

7 Mai 2020

Fel cartref cof y genedl, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o lansio ymgyrch i gasglu cofnodion o brofiadau pobl Cymru yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Ers ei sefydlu dros ganrif yn ôl, mae’r Llyfrgell wedi bod wrthi’n casglu a chadw cofnod o ddigwyddiadau yn ein hanes fel Cymry, fel eu bod ar gael i’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. 

Bwriad y Llyfrgell yw casglu amrywiaeth o eitemau - o bapurau newydd i gyhoeddiadau swyddogol ac archifo cynnwys gwefannau, a hynny i gofnodi argyfwng Covid-19 a’i effaith ar Gymru a’i phobl. Ond fyddai hynny ddim yn creu'r darlun llawn, felly rydym yn awyddus i gasglu profiadau personol hefyd er mwyn cofnodi effaith y sefyllfa bresennol ar fywydau bob dydd y genedl.

Rydym yn gofyn felly i’r cyhoedd rannu eu profiad trwy gyfrwng o’u dewis – yn llythyrau, dyddiaduron, fideos, recordiadau llais neu luniau. Gan ofyn iddynt feddwl am sut mae ei diwrnod arferol wedi newid; beth sydd fwyaf heriol; beth sydd wedi bod yn annisgwyl; pa fath o bethau sy’n achosi pryder; beth maen nhw wedi gwneud er mwyn delio gyda’r sefyllfa a beth yw’r pethau positif i ddod o’r profiad? Y pethau cyffredin yn eu bywydau. Wrth gofnodi’r profiadau unigryw hyn byddwn yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall y cyfnod a’i effaith yn well.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae trysorfa gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol yn ffynhonnell wybodaeth bwysig a hanes a diwylliant unigryw Cymru wedi’i ddogfennu mewn ffurfiau a chyfryngau amrywiol iawn. Dyma sy’n sicrhau bod gennym well dealltwriaeth o bwy ydym, a’r hyn sydd wedi ein ffurfio fel pobl. 

"Mae’n bwysig ein bod yn chwarae rhan ragweithiol wrth sicrhau bod stori’r Cymry yn ystod argyfwng Covid-19 yn cael ei gofnodi mor gyflawn â phosib ac wedi’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Bydd y gwaith yma yn cyfrannu at bartneriaeth ehangach gyda Chasgliad y Werin Cymru, a bydd y Llyfrgell yn un o nifer o sefydliadau treftadaeth ar draws Cymru fydd yn cydweithio â nhw i gasglu profiad Cymru o Covid-19.

Am fwy o fanylion am sut i gymryd rhan ewch i dudalen Casglu Profiad Covid-19 Cymru ar wefan y Llyfrgell.

Gwybodaeth Bellach

Nia Wyn Dafydd

post@llgc.org.uk

 

-Diwedd-