Symud i'r prif gynnwys

07.02.2020

Mae posteri gigs, cyngherddau a gwyliau Cymraeg yn dweud cymaint wrthym am hanes diwylliant Cymru a’r Sîn Roc Gymraeg ar draws y degawdau.

Wrth i Ddydd Miwsig Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn bump oed ar 7 Chwefror 2020, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru am lansio ymgyrch #poster2020. Fel rhan o’r fenter, rydym yn apelio ar sefydliadau, trefnwyr a chasglwyr i’n cynorthwyo i greu casgliad cenedlaethol cynhwysfawr o bosteri.

Bydd ymgyrch #poster2020 yn cael ei arwain gan Yr Archif Gerddorol Gymreig, sy’n casglu a hyrwyddo’r defnydd o archifau a llawysgrifau cerddorol yn y Llyfrgell. Mae datblygu casgliad cynhwysfawr o bosteri hefyd am gyfoethogi amcanion yr Archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell, wrth gynnig ongl a chyd-destun diddorol i eitemau sain a cherddoriaeth Cymraeg.

Ymhlith y posteri amlycaf a gedwir yn y Llyfrgell ar hyn o bryd mae casgliad Gwilym Tudur. Cynhwysodd cyfres helaeth o dros 120 o bosteri, sy’n wleidyddol eu natur ac yn hyrwyddo gigs a chyngherddau Cymraeg. Mae’n bosib y bydd ymwelwyr â’r Llyfrgell wedi gweld detholiad ohonynt yn ein harddangosfa ddiweddar – Record: Gwerin, Protest a Phop, a fydd yn teithio i’n horiel yng Nglan-yr-afon, Hwlffordd yn y dyfodol.

Dywedodd Nia Mai Daniel, Rheolwr Rhaglen yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r Archif Gerddorol Gymreig yn cynnwys gwybodaeth am gerddoriaeth o bob math yng Nghymru, o’r clasurol i’r gwerin a’r pop. Rydym yn parhau i adeiladu ar y casgliad ac yn ceisio adnabod bylchau wrth gasglu, a dyna sail ymgyrch #poster2020. Os ydych yn trefnu gig, cyngerdd neu ŵyl  yn 2020, danfonwch eich poster atom i’r Archif Gerddorol, ar ffurf papur, neu yn electronig, a chyfrannwch at ein casgliadau cenedlaethol yn y Llyfrgell.”

Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae gennym gyfres go gynhwysfawr o bosteri sy’n dyddio o’r 60au hyd at yr 80au yn y Llyfrgell Genedlaethol. Serch hynny, mae bylchau sylweddol yn ein casgliadau cyfredol, yn benodol o’r 90au ymlaen.  Posib mai’r dirywiad yn ansawdd a gwedd posteri sy’n esbonio hynny, ond erbyn heddiw fe'i hystyrir eto fel mynegiant artistig sy’n naturiol wedi denu sylw casglwyr brwd.”

---DIWEDD---

Gwybodaeth bellach (ymholiadau’r wasg)

Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk
01970 632 534

Gwybodaeth bellach (cyfrannu posteri)

Nia Mai Daniel
nia.daniel@llyfrgell.cymru
01970 632 878