Symud i'r prif gynnwys

14.01.2020

Mae arddangosfa sy’n dathlu perthynas agos Cymru â’r môr wedi agor ei drysau yn oriel Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng Nglan-yr-afon, Hwlffordd. Cymru a’r Môr yw’r drydedd arddangosfa i ymddangos yn yr oriel flaenllaw hon yn Hwlffordd yn dilyn llwyddiant Trysorau a Kyffin Williams: Tir a Môr.

Gydag arfordir yn mesur bron i chwe chan milltir o hyd, nid yw’n syndod bod gan Gymru berthynas agos â’r môr. Mewn amryw o ffyrdd mae’r môr wedi llunio nid yn unig arfordir Cymru, ond hefyd hanes a dychymyg ei phobl.

Trwy gyfrwng straeon, gwrthrychau a delweddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru; mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn asesu sut mae’r môr wedi dylanwadu ar dirwedd a diwylliant Cymru.

Ar hyd y canrifoedd, mae'r môr wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer ac yn parhau i ddylanwadu’r Cymry mewn gair, llun a chân. Mae Cymru a’r Môr yn archwilio sut mae gweithiau gan artistiaid ac awduron, fel Kyffin Williams, John Dillwyn Llewelyn, J. Glyn Davies a Dylan Thomas, wedi cael eu hysbrydoli gan arfordir y wlad.

Ond mae gan y môr ei hochr dywyll hefyd, sy'n dod i’r amlwg drwy hanesion llongddrylliadau, fel trychineb Lusitania. Ymhlith yr arddangosion mwyaf blaenllaw y mae gwregys achub yr Is-iarll Rhondda yn ystod suddo’r leinin gefnfor honno ym 1915. Yn ogystal, bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn dod wyneb yn wyneb â rhai o smyglwyr a môr-ladron enwocaf y wlad.

Yn ôl rhai, nid y gaeaf yw’r tymor gorau i fwynhau ar lan y môr! Serch hynny, does dim angen brwydro yn erbyn y gwynt a’r glaw i gael cipolwg ar y gwrthrychau anhygoel yng Nglan-yr-afon. Dewch i fwynhau gweithiau celf a ffotograffau, ynghyd â chlipiau ffilm o dan gysgod yr oriel yn Hwlffordd.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae cynnig mynediad at ein casgliadau cenedlaethol yn flaenoriaeth bwysig i’r Llyfrgell Genedlaethol. Trwy gyfrwng arddangosfa Cymru a'r Môr, bydd ymwelwyr o Sir Benfro a thu hwnt yn gallu gweld amrywiaeth o eitemau amhrisiadwy a deniadol sy’n dangos perthynas arbennig y Cymry â’r môr o ran tirwedd ac o ran diwylliant. Eiddo’r genedl yw ein casgliadau, ac mae arddangosfa fel hyn yn ein galluogi i gyflwyno detholiad arbennig o’n casgliadau fel bod y cyhoedd yn gallu gwerthfawrogi cyfoeth ein treftadaeth a’n hanes."

Meddai Paul Miller, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros yr Economi, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant:

"Mae gan Sir Benfro gyswllt annatod â'r môr, felly mae'n addas iawn bod Cymru a'r Môr yn dod i'r sir. Rydym yn hyderus y bydd yr arddangosfa hon, fel ein harfordir trawiadol, yn denu llawer o ymwelwyr yn ystod y misoedd nesaf."

Dywedodd Mike Cavanagh, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliant, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru Cyngor Sir Penfro:

“Bydd Cymru a'r Môr yn ychwanegu at arlwy amrywiol Glan-yr-afon. Mae'r arlwy eclectig, sy'n cynnwys llyfrgell, oriel, gwybodaeth i ymwelwyr a siop goffi, yn diwallu anghenion ein defnyddwyr llyfrgell leol ac, ar yr un pryd yn gyrchfan deniadol i ymwelwyr â Sir Benfro.

“Rydym yn sicr y bydd Cymru a'r Môr, yn yr un modd â'r arddangosfeydd blaenorol, yn arddangosfa sy'n werth ei gweld i breswylwyr a phobl eraill fel ei gilydd, wrth i ni nesáu at flwyddyn ers agor y lleoliad.”

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau addysg gyffrous i gyd-fynd â'r arddangosfa hon, gan gynnwys sgwrs gan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn seiliedig ar ei cyhoeddiad diweddar - Cymru a’r Môr.

Yn ymddangos ochr yn ochr ag arddangosfa Cymru a'r Môr mae Stori Sir Benfro, sef arddangosfa barhaol yng Nglan-yr-afon sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant, celfyddydau a chwedlau Sir Benfro.

Bydd y ddwy arddangosfa i'w gweld tan ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2020, fel rhan o bartneriaeth barhaus rhwng Cyngor Sir Penfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng Nglan-yr-afon.

--- DIWEDD ---

Gwybodaeth Bellach

Elen Haf Jones
01970 632 534
post@llgc.org.uk