Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Menter Iaith Môn, wedi rhyddhau cyfres o adnoddau addysgol Cymraeg newydd ar wefan HWB a Wicipedia, er mwyn adeiladu ar yr adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddisgyblion sy'n astudio Hanes.
Mae'r gwaith yn benllanw prosiect peilot 12 mis a ariannwyd gan Llywodraeth Cymru, lle bu’r Wicimediwr Cenedlaethol yn cydweithio â Menter Iaith Môn, CBAC, HWB ac arbenigwyr pwnc i ddethol 100 o destunau a themâu a astudir fel rhan o bwnc Hanes mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Bu i arbenigwr pwnc lunio erthyglau Wicipedia Cymraeg newydd ynghyd â chyfres o fideos addysgol byr, gan addasu’r adnoddau dysgu trwydded agored bresennol lle oedd hynny'n bosibl.
Gellir cael mynediad at y cynnwys ar Wicipedia, lle fydd modd i’r gymuned wella a diweddaru erthyglau dros amser. Mae copïau statig o’r adnoddau, sydd wedi'u cymeradwyo gan arbenigwyr, hefyd ar gael ar wefan HWB.
Defnyddir Wikipedia yn helaeth gan ddisgyblion ar gyfer defnydd ymchwil, ond mae diffyg ansawdd a manylder cynnwys cyfrwng Cymraeg yn aml yn gorfodi myfyrwyr i droi at wybodaeth a chynnwys Saesneg. Mae’r prosiect felly’n strategaeth newydd i ddatblygu adnoddau dysgu hyblyg, trwydded agored y gellir eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd ac ar wahanol blatfformau gan sicrhau cynnwys mor hygyrch â phosib.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn cefnogi fersiwn Cymraeg Wikipedia, sydd â dros 100,000 o erthyglau, ers cyflogi Wicimediwr Preswyl yn 2015. Wrth gydweithio â Llywodraeth Cymru, mae'r Llyfrgell wedi gweithredu nifer o brosiectau Wicipedia; cyflwyno digwyddiadau golygu a hyfforddi Wikipedia ar gyfer gwahanol grwpiau a sefydliadau, a rhannu ystod o gasgliadau digidol yn agored i'w defnyddio mewn erthyglau Wikipedia.
Dywedodd Jason Evans, Rheolwr Prosiect a Wicimediwr Cenedlaethol:
“Gyda’r cyfnod clo cenedlaethol yn gefnlen i’r prosiect, does dim dwywaith bod y gallu i gael mynediad at adnoddau dysgu ar-lein am ddim yn bwysicach nag erioed. Erbyn hyn, gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg chwilio am gyfoeth o wybodaeth ddibynadwy am ystod o bynciau hanesyddol yn y Gymraeg. Yn ogystal, mae llawer o'r erthyglau hyn yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau hanesyddol o safbwynt Cymru, lle nad yw'r fersiynau Wikipedia Saesneg yn gwneud hynny. Gobeithio y gellir defnyddio ein gwaith fel templed ar gyfer proses newydd o greu a dosbarthu adnoddau dysgu Cymraeg.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams AS:
"Mae’r defnydd o lwyfannau dysgu ar-lein wedi cynyddu'n aruthrol eleni, gyda’r cyfanswm o’r rheini sy’n mewngofnodi i blatfform HWB wedi dyblu o'i gymharu â'r llynedd.
“Bydd y deunyddiau dysgu yma’n wirioneddol werthfawr i ddisgyblion sy'n astudio Hanes trwy gyfrwng y Gymraeg a byddant yn adnoddau rhagorol i'w defnyddio yn ein Cwricwlwm newydd."
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae medru cynnig mynediad digidol i blant a phobl ifanc at hanes a diwylliant Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol bwysig. Bydd galluogi ystod o adnoddau addysgol newydd yn symbylu ac ysbrydoli pobl ifanc i wybod mwy am ddigwyddiadau hanesyddol ac effaith rheiny ar ein datblygiad fel Cymry.”
Dywedodd Aaron Morris, Menter Iaith Môn:
“Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ar brosiect mor bwysig. Trwy greu'r cynnwys addysgol hwn, nid yn unig rydym ni'n tynnu sylw at agweddau diddorol o hanes Cymru, ond rydym yn sicrhau ei fod ar gael yn rhydd i bawb ymchwilio i'n hanes trwy ddefnyddio ein hiaith gyntaf ac annog pawb i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn hyderus a balch.”
---DIWEDD---
Gwybodaeth bellach:
Elen Hâf Jones
post(at)llgc.org.uk
**This press release is also available in English**