Symud i'r prif gynnwys


23.07.2020


Mae dau o sefydliadau diwylliannol Cymru wedi dod ynghyd i ffurfio partneriaeth unigryw fydd yn gweld Eisteddfod Genedlaethol Cymru’n rhoi llwyfan i'r Llyfrgell Genedlaethol ddarparu rhaglen o weithgareddau ar faes rhithiol yr Eisteddfod fel rhan o Eisteddfod AmGen.


Bydd y digwyddiadau sy’n rhan o’r bartneriaeth yn canolbwyntio’n benodol ar hanes a statws merched ac yn cynnwys digwyddiadau am ferched amlwg, trafodaeth ar amrywedd ein casgliadau cenedlaethol, ac yn cloriannu sut mae merched yn cael eu cynrychioli mewn hanes a chofnodion archifol. 


Bydd y gweithgareddau amrywiol yn cynnwys sesiwn C&A gan yr Archif Gerddorol gyda Gwenan Gibbard (Caneuon cuddiedig yn archif Mered a Phyllis), ail-ddarllediadau o’r gyfres Curaduron yn Cyflwyno, sesiynau O’r Archif gyda’r Archif Gerddorol a Thŷ Gwerin, a pherfformiadau a sgyrsiau gan artistiaid a gomisiynwyd yn ddiweddar gan brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain


Yn goron i’r cyfan bydd dau ddigwyddiad arbennig yn cael eu darlledu yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Ar nos Lun 3 Awst am 18:30, bydd curadur celf y Llyfrgell Genedlaethol, Morfudd Bevan yn edrych ar fywyd a gwaith yr artist Brenda Chamberlain, enillydd y ddwy fedal aur cyntaf i’w cyflwyno gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Yna ar ddydd Gwener 7 Awst am 12:30 cynhelir panel trafod arbennig: Ble mae'r Menywod? - Cydbwyso’n Cofnod Hanesyddol, dan arweiniad Llywydd y Llyfrgell, Meri Huws yng nghwmni Elin Jones (AS a Llywydd y Senedd), Efa Lois, Ceridwen Lloyd Morgan a Catrin Stevens.


Meddai Meri Huws, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o fedru bod yn rhan o bartneriaeth gyffrous gyda'r Eisteddfod Genedlaethol sy’n rhoi’r cyfle i ni rannu gwybodaeth am gyfoeth ein casgliadau, trwy arbenigedd ein staff a gweithgareddau eraill, ar lwyfan cenedlaethol. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r ymgyrch gan yr Eisteddfod i godi proffil merched, a rhoi lle teilwng iddyn nhw yn ein hanes, ein diwylliant a’n cofnodion hanesyddol.”


Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: 
“Ry’n ni’n croesawu’r cyfle i ddatblygu’r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod a’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r cyfnod cloi diweddar wedi bod yn gyfle i sefydliadau rannu gwybodaeth am eu casgliadau, ac mae hefyd wedi ein galluogi i edrych ar y modd o gydweithio mewn ffordd newydd a chyffrous.  Ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i gael rhannu arbenigedd staff y Llyfrgell fel rhan o Eisteddfod AmGen eleni, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu’r berthynas ymhellach yn y dyfodol.”


DIWEDD


Nodiadau
Cyhoeddir manylion wythnos Eisteddfod AmGen ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru yn fuan, a bydd manylion hefyd yn cael eu rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell: @LlGCymru (Twitter), llgcymrunlwales (Facebook).


Mae modd gwylio popeth ar-lein ar wefan yr Eisteddfod, neu ar sianel yr Eisteddfod ar You Tube.  Bydd y sesiwn Ble mae'r Menywod? - Cydbwyso’n Cofnod Hanesyddol hefyd yn cael ei darlledu ar dudalen facebook yr Eisteddfod, a bydd modd gwylio’n ôl ar-lein ac ar YouTube wedyn.


Gwybodaeth Bellach
Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk