Symud i'r prif gynnwys

10.09.2020

 

Mae’r syllwr casgliadau [Universal Viewer] a ddefnyddir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar mewn dwy wobr fawreddog ac mae ymhlith rownd derfynol Gwobrau Tech4Good 2020 a Gwobrau Open UK 2020. Mae gwaith y Llyfrgell ar Wicidata hefyd wedi cyrraedd rhestr fer categori Data Agored Gwobrau Open UK

Mae’r Universal Viewer a ddefnyddir gan y Llyfrgell i roi mynediad i’w chasgliadau, wedi cyrraedd rhestr fer categori Celf a Diwylliant yng ngwobrau Tech4Good a chategori Meddalwedd Ffynhonnell Agored yng Ngwobrau OpenUk 2020.

Mae datblygiadau digido yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi’r cyfle i sefydliadau fel y Llyfrgell i agor eu casgliadau i gynulleidfa fyd-eang, ond mae sialensiau yn codi o ran sut i roi mynediad i’r wybodaeth yma ar-lein. Mae’r Universal Viewer yn ymateb uniongyrchol i’r sialens yma. Trwy’r syllwr, mae’r Llyfrgell a sefydliadau eraill cyffelyb yn gallu rhoi mynediad i ddelweddau cydraniad uchel y gellir eu chwyddo, o rai o drysorau mwyaf gwerthfawr y genedl a chynnwys clyweledol.

Mae’r Universal Viewer, a ddatblygwyd yn wreiddiol yn Llyfrgell Wellcome yn 2012, yn brosiect ffynhonnell agored wedi’i ddatblygu gan gymuned, gyda’r bwriad o rannu cynnwys gyda’r byd, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan gannoedd o sefydliadau, gan gynnwys y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Prifysgol St Andrews, Amgueddfa V&A, y BFI ac wrth gwrs Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

I ddefnyddwyr, mae buddion y Universal Viewer yn cynnwys rhyngwyneb glân a chyfeillgar ar gyfer gweld, lawrlwytho, ymgorffori a rhannu cynnwys, gan sicrhau bod mynediad i ddeunydd treftadaeth diwylliannol yn brofiad cyfleus a hawdd i’w ddefnyddio. Mae nifer o fuddion o’i ddefnyddio i’r sefydliadau hyn gan gynnwys cefnogaeth IIIF safonol i rannu cynnwys digidol ac mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch ein bod yn rhan o’r fenter hynod lwyddiannus yma.

Mae’r Llyfrgell, fel un o’r partneriaid yng Ngrŵp Llywio’r Universal Viewer a chyda’i Phennaeth Dylunio a Datblygiad y We yn gadeirydd, wedi cyfrannu at gyd-ddatblygiad yr erfyn yma. Mae’r grŵp yn sicrhau datblygiad a gwelliant parhaus y syllwr, gan ddarparu cyfeiriad strategol unedig a sicrhau ei gynaladwyedd.

Mae’r Llyfrgell hefyd ar y rhestr fer yn y categori Data Agored yng Ngwobrau Open UK am ei gwaith gyda Wicidata. Mae’r Llyfrgell wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Wikimedia UK ers 2015, ac wedi cynnal nifer o brosiectau Wici gyda chefnogaeth Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae gwaith Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell wedi cynnwys trosi metadata casgliadau i Wicidata ar gyfer nifer o gasgliadau, gan amrywio o weithiau celf i ddeunydd print. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at gyfoethogi data, caniatáu archwilio casgliadau mewn ffyrdd newydd a chysylltu eitemau gyda gwybodaeth ychwanegol. 

 

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd: 
“Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y Llyfrgell a bydd sicrhau ffyrdd newydd ac effeithiol o roi mynediad i’n casgliadau yn allweddol ar gyfer gwireddu cynllun strategol newydd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Rwy’n ymfalchïo bod cyfraniad y Llyfrgell a’i staff yn y meysydd pwysig yma, yn derbyn cydnabyddiaeth mewn gwobrau mawreddog fel hyn.”


Meddai Illtud Daniel, Pennaeth TGCh:
“Mae mabwysiadu’r Universal Viewer ar gyfer arddangos ein cynnwys digidol wedi bod yn drawsnewidiol i ni ac i’n defnyddwyr, ac rwy’n hynod falch o gyfraniad staff y Llyfrgell yn llywio datblygiad y prosiect rhyngwladol hwn, gan sicrhau yn arbennig ei fod yn amlieithog ac yn gallu cynnal y gwahanol fathau o gasgliadau ni’n eu cynnig.”

Meddai Dafydd Tudur, Pennaeth Mynediad a Rhaglenni Cyhoeddus:
“Rydyn ni’n falch iawn i glywed bod y ddwy fenter yma ar y rhestrau byr i ennill y gwobrau hyn. Mae ein gwaith gyda’r Universal Viewer a Wicidata yn tarddu o’n hymrwymiad i wneud data yn fwy hygyrch ac i wella mynediad i'n casgliadau ar-lein. Maent hefyd yn amlygu gwerth cydweithio gyda sefydliadau a chymunedau eraill i oresgyn heriau a datblygu datrysiadau newydd er budd defnyddwyr.”

---DIWEDD---

**This press release is also available in English**

Gwybodaeth Bellach:
Nia Dafydd
post@llgc.org.uk