Symud i'r prif gynnwys

20.11.2020


Fel rhan o ddathliadau Wythnos Archwiliwch Eich Archif eleni bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn datgelu cyfres o gomisiynau artistig a chreadigol newydd. Mae’r darnau, sy’n amrywio o ran eu harddull a’u cyfrwng, wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol sydd i’w canfod ar-lein.


Cynhelir Wythnos Archwiliwch Eich Archif ar 21-29 Tachwedd ac mae’n ddathliad cenedlaethol o’r trysorau a’r straeon di-ri sydd i’w canfod ymhlith eitemau mewn archifdai. Arweinir yr ymgyrch gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon) a’i nod yw codi proffil y casgliadau a gadwir mewn archifau lleol, cenedlaethol, prifysgol a phreifat. 


Bydd y gyfres o gomisiynau yn cael eu cyhoeddi ar blatfformau digidol y Llyfrgell Genedlaethol. Yn eu plith mae gweithiau gan yr arlunydd Lowri Roberts a’r cyfansoddwr Gareth Roberts; yr awdur Katie Munnik; yr artist aml-gyfrwng Lleucu Jenkins; a’r awdur Llŷr Titus


Dywedodd Llŷr Titus:
“Dwi'n falch iawn mod i wedi derbyn y comisiwn hwn i gydweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, mae o'n gyfle gwych i amlygu'r cyfoeth o adnoddau sydd ar gael ar eu gwefan. Gan mod i'n defnyddio'r adnoddau hyn beth bynnag roedd cael rhoi gogwydd greadigol ar un yn brofiad y gwnes i ei fwynhau'n arw.”


Yn ogystal, mae’r Llyfrgell wedi cydweithio gydag Ysgol Gymraeg Aberystwyth i ail-ddehongli rhai o’r casgliadau ffotograffig.


Bydd yr holl weithiau a’r ffotograffau yn cael eu cyhoeddi drwy gydol yr wythnos ar gyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell Genedlaethol.


Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae gennym ystod gyfoethog o gasgliadau archifol diddorol ac unigryw, a llawer o’r rheini bellach ar gael ar-lein. Fel pob blwyddyn arall, bydd Archwiliwch Eich Archif eleni yn ymgyrch liwgar a diddorol, fydd nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth o’r deunydd amhrisiadwy a gadwir mewn archifdai ar draws y wlad, ond yn arddangos eu potensial fel ffynonellau gwych ar gyfer ysbrydoliaeth greadigol.”


Dywedodd Vicky Jones, Rheolwr Busnes Archifau Cymru:
“Nod Archwiliwch Eich Archif yw ysbrydoli pobl i ddysgu mwy am rai o’r storïau treftadaeth anhygoel sydd ar eu trothwy ac ar-lein. Mae straeon o’r gorffennol hefyd yn medru sbarduno rhywun i greu o’r newydd a defnyddio’n hanes fel ysbrydoliaeth yn y presennol. ‘Da ni’n edrych ymlaen at weld y darnau sydd wedi’u creu fel rhan o ymgyrch y Llyfrgell, a fydd, gobeithio, yn ysgogi eraill i chwilota’r hyn sydd gan archifdai i’w cynnig iddynt.”


---DIWEDD---


Gwybodaeth bellach:
Nia Wyn Dafydd
post(at)llgc.org.uk 


**This press release is also available in English**