Baner yr arddangosfa - Exhibition header image

Dechrau Gyrfa Wleidyddol David Lloyd George

Ar ôl llwyddo yn arholiadau rhagbaratoawl Cymdeithas y Gyfraith cafodd waith fel prentis-gyfreithiwr yn swyddfa Breese, Jones a Casson ym Mhorthmadog yn 1878. Yn y cyfnod yma hefyd y dechreuodd ddod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth. Yn 1885, yn dilyn anghydweld yn y swyddfa ym Mhorthmadog, sefydlodd fusnes ei hun yng Nghricieth. Yn yr un flwyddyn fe'i gwelwn yn cymryd rhan flaenllaw yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Meirionnydd fel Rhyddfrydwr. Ar ddechrau'r flwyddyn ddilynol wrth rannu llwyfan mewn cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog gyda'r cenedlaetholwr Gwyddelig, Michael Davitt, a'r cenedlaetholwr Cymreig, y Parchg Michael D Jones, yr oedd wedi dangos ei ochr yn gwbl eglur fel "radical".

Rhoes achos mynwent Llanfrothen, achos o wrthdaro rhwng Anghydffurfwyr ac Eglwyswyr ynglŷn â hawliau claddu, lwyfan cyhoeddus i David Lloyd George fel cynrychiolydd yr amddiffynwyr anghydffurfiol. Aeth yr achos yn y diwedd i'r Llys Apêl yn Llundain. Gyda'r fath sylw fe lwyddodd i ennill yr enwebiad fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon.

Yn gynnar yn 1888 ymddangosodd rhifyn cyntaf y papur newydd byrhoedlog Udgorn Rhyddid (The Trumpet of Freedom). Sefydlwyd y papur gan David Lloyd George o dan olygyddiaeth ei gyfaill D R Daniel. Ei bwrpas oedd hyrwyddo ei syniadau radicalaidd ac anghydffurfiol ym meysydd fel y degwm, datgysylltu'r eglwys, problem y tir, addysg a dirwest. Ond yr oedd hefyd yn gyfrwng personol iddo ef ennill sylw yng ngwleidyddiaeth y gogledd orllewin a hyrwyddo ei ymgais i'w ethol yn Aelod Seneddol.

Ar ôl ei ddewis yn ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon yn 1889 fe fu'n rhaid i David Lloyd George ymladd isetholiad annisgwyl yn 1890 ar ôl marwolaeth yr aelod Torïaidd, Edmund Swetenham. Yn eironig, ei wrthwynebydd yn y frwydr oedd H J Ellis-Nanney, sgweier Llanystumdwy. Oherwydd ei ddaliadau radicalaidd ni allai ddibynnu hyd yn oed ar gefnogaeth Rhyddfrydwyr yn yr etholaeth. Felly fe gafodd dipyn o syndod o gael ei ethol â mwyafrif o 18 ar ôl ail gyfrif. Dyma oedd ei fuddugoliaeth gyntaf mewn cyfres o bedwar etholiad ar ddeg yr ymladdodd rhwng 1890 ac 1945.