Symud i'r prif gynnwys

Bu David Lloyd George yn gefnogwr brwd o roi'r hawl i fenywod bleidleisio, a hynny o gyfnod cynnar yn ei yrfa wleidyddol. Eto i gyd, nid oedd yn ddigon i'w gadw rhag derbyn ymosodiadau geiriol a chorfforol gan ymgyrchwyr. Cynyddodd yr ymosodiadau ar ôl iddo bleidleisio yn erbyn mesur yn 1910 a fyddai wedi rhoi'r bleidlais i rai menywod - rhai oedd yn berchen eiddo â'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol. Yn ei dyb, yr oedd yn fesur a fyddai ond o les i'r Torïaid. Yn ystod yr ymgyrchu byddai menywod yn ei ddilyn o gwmpas ac yn mynnu ei sylw. Wrth agor y ganolfan gymunedol a roes yn rhodd i bentref Llanystumdwy, fe'i dilynwyd yno gan ymgyrchwyr. Serch hynny, fe'u daliwyd hwy gan fechgyn lleol a dynnodd eu dillad i gyd oddi amdanynt.