Symud i'r prif gynnwys

Wedi gadael swydd y Prif Weinidog a'r Llywodraeth ceisiodd Lloyd George ail-adeiladu'r Blaid Ryddfrydol. Yr oedd honno erbyn hyn mewn sefyllfa druenus iawn. Yn Etholiad 1923 enillodd 157 sedd, yn Hydref 1924 enillodd ond 40 . Er yr ail-uno, ni ddaeth diwedd ar y chwerwder personol rhwng carfan Lloyd George a charfan Asquith; chwerwder a ganolbwyntiai'n aml iawn ar gronfa wleidyddol bersonol Lloyd George. Trwy'r 1920au ceisiodd yntau adfywio'r blaid trwy gyflwyno polisïau newydd yn gyson ar faterion fel diwydiant, tir, ynni a diweithdra. Yn Etholiad Cyffredinol 1929 ymgyrchodd Lloyd George yn galed ar y polisïau newydd hyn, ond enillodd y Rhyddfrydwyr ond 59 sedd. Erbyn Etholiad Cyffredinol 1931 yr oedd y mwyafrif o'r Blaid Ryddfrydol wedi troi cefn arno gan ei adael ond yn arweinydd ar grŵp o bedwar aelod "teuluol"- ef ei hun, Megan (ei ferch), Gwilym (ei fab) a Goronwy Owen (brawd-yng-nghyfraith Gwilym).