Symud i'r prif gynnwys

Yn 1935, ac yntau'n 72 oed, fe lansiodd Lloyd George ei ymgyrch fawr olaf mewn cyfarfod ym Mangor. Yr oedd am weld Cyngor Datblygu Cenedlaethol yn cael ei sefydlu gyda chynrychiolwyr o ddiwydiant, masnach, byd arian, gweithwyr a meddylwyr economeg. Byddai'r Cyngor yn gyfrifol am gynllunio rhaglenni sylweddol a beiddgar ym maes tai, ffyrdd, tir ac yn adfer diwydiannau dirwasgedig. Ni chafodd ei gynlluniau dylanwad ar bolisïau'r Llywodraeth Genedlaethol, er gwaetha'r ffaith iddo barhau'n aelod seneddol tan ddiwedd 1944.