Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn 1912 daeth Frances Stevenson i weithio i dŷ Lloyd George fel athrawes breifat i Megan. Cyn bo hir yr oedd perthynas agos wedi datblygu rhyngddi hi â David Lloyd George, perthynas a oedd i bob pwrpas yn briodas arall. Tra 'roedd Dame Margaret yng Nghricieth ceisiai Lloyd George yn Llundain gwmni a chysur oddi wrth Frances. Yn 1929 fe anwyd merch i Frances, Jennifer Mary.
Wedi cyfnod o salwch ar ôl syrthio a niweidio ei chlun fe fu farw Dame Margaret Lloyd George ar 20 Ionawr 1941. Oherwydd eira mawr fe rwystrwyd Lloyd George rhag teithio o Sir Ddinbych ac ni fedrodd fod gyda'i wraig ar ddiwedd ei bywyd. Roedd hyn yn ofid mawr iddo. Yn yr angladd fe gafodd Lloyd George gefnogaeth ei feibion, Richard a Gwilym. Aethpwyd â'r arch i'w chladdu ar lori a oedd wedi'i thynnu gan chwe deg pump o aelodau'r Cartreflu.
Dwy flynedd ar ôl marwolaeth Dame Margaret fe briododd David Lloyd George â Frances Stevenson, ac ym Medi 1944 fe ymgartrefodd y ddau yn y Tŷ Newydd ger Llanystumdwy. Yn ei hen gynefin y treuliodd gyfnod olaf ei fywyd. Synnwyd llawer o'i edmygwyr yn fawr wedi iddo dderbyn gwahoddiad i Dy'r Arglwyddi. Serch hynny, ar y 1 Ionawr 1945 fe'i dyrchafwyd yn Iarll Lloyd George o Ddwyfor.