Symud i'r prif gynnwys

Pan ddaeth i'r Senedd, llugoer fu'r croeso a gafodd gan lawer o'i gyd-aelodau Rhyddfrydol o Gymru. Yr oedd ei enwogrwydd fel radical a chenedlaetholwr wedi siapio barn rhai o'r cychwyn. Ymhlith y rhai a roes iddo groeso cynnes oedd T E Ellis a Samuel T Evans, er roedd ganddynt hwy hyd yn oed eu hamheuon amdano. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn y Senedd canolbwyntiodd ar faterion o ddiddordeb "Cymreig": gwnaeth ei araith gyntaf yn y Tŷ ar 14 Mehefin 1890 ar fater dirwest. Erbyn ei ail araith y frenhiniaeth a'i rhwysg drudfawr oedd yn ei chael hi gan y radical newydd o Gymru.

Ym mis Ebrill 1894 penderfynodd David Lloyd George, Frank Edwards, J Herbert Lewis a D A Thomas wrthod derbyn chwip y blaid Ryddfrydol oherwydd diffyg gweithredu ar fater cyflwyno mesur datgysylltiad eglwysig gerbron y Senedd. Roedd yr achos yn agos iawn at galon y Cymry anghydffurfiol "genedlaetholgar". Prif chwip y blaid ar y pryd oedd T E Ellis. Dyma oes Cymru Fydd, ond oes a ddaeth i ben yn fuan iawn gyda'r cyfarfod tyngedfennol hwnnw o Ffederasiwn Rhyddfrydwyr De Cymru yng Nghasnewydd yn Ionawr 1896 pan wrthodwyd syniadau Lloyd George. Troes ei sylw yn awr tuag at faterion "cenedlaethol" Prydeinig, er iddo gadw ei ddiddordeb mewn materion "Cymreig" megis datgysylltiad, addysg a thir. Yr oedd ei lygaid yn awr ar ennill yn Llundain yn ogystal â Nefyn.