Symud i'r prif gynnwys

Daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog ar 6 Rhagfyr 1916. Yn dilyn misoedd ar fisoedd o fethiant ac anfodlonrwydd gyda Llywodraeth Asquith fe ddaeth Unoliaethwyr, Aelodau Llafur a'r mwyafrif o Ryddfrydwyr at ei gilydd i gefnogi llywodraeth gyda Lloyd George fel ei Brif Weinidog. Nid oedd ganddo fel y cyfryw gefnogaeth gref un blaid, ac felly dibynnai Lloyd George ar ei lwyddiant personol am gefnogaeth. Llwyddodd ynghylch y Rhyfel, a dyna yn fwy na dim arall a'i cadwodd yn ei swydd. Fe roddodd ei stamp personol ei hun ar bopeth a wnâi’r Llywodraeth. Ar ei apwyntiad fe sefydlodd drefn newydd trwy godi Cabinet Rhyfel bychan a oedd yn awdurdod terfynol ar gwrs y Rhyfel - pwyllgor o bump gyda Lloyd George yn gadeirydd. Llwyddodd felly i osgoi'r dadleuon diwerth a hir oedd wedi atal gwaith cabinet Asquith. Pan ddaeth heddwch yn 1918 Lloyd George oedd "y dyn a enillodd y Rhyfel".

Sicrhaodd llwyddiant David Lloyd George yn ystod y Rhyfel ei le iddo fel Prif Weinidog, pan ennillodd fwyafrif llethol yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1918.

Erbyn 1922 yr oedd y gefnogaeth i David Lloyd George wedi gwanychu'n fawr a'r glymblaid a ffurfiau'r Llywodraeth wedi gwegian o ganlyniad i bolisïau aflwyddiannus. Yr oedd gwrthwynebiad iddo yn bersonol, yn enwedig ar ôl y sgandal o werthu anrhydeddau. Ond yn fwy difrifol oedd yr anniddigrwydd ymysg nifer fawr o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr. Nid oedd y Prif Weinidog a hwy yn cydweld ar amryw o faterion. Ond yn fwy na dim, sbardunwyd rhwystredigaeth gan arddull Lloyd George mewn cynadleddau rhyngwladol. Ef a fyddai'n gwneud y negodi i gyd, a hynny heb ofyn barn na chynghori a'r Swyddfa Dramor. Felly roedd pob methiant yn y maes polisi rhyngwladol yn perthyn iddo ef yn unig. Daeth hynny i'r amlwg yng Nghynhadledd Genoa. Ei fwriad yno oedd hybu cydweithrediad economaidd, gwella'r gyd-ddealltwriaeth â Ffrainc a cheisio cael llywodraethau eraill i gydnabod Rwsia. Ond ni lwyddodd y Gynhadledd i gyflawni fawr o ddim.

Methiant fu ymgais Lloyd George i adeiladu plaid y canol yng ngwleidyddiaeth Prydain a dim ond mater o amser oedd hi cyn y byddai'r glymblaid yn dadfeilio. Dyna a wnaeth yn Hydref 1922 pan bleidleisiodd mwyafrif o aelodau Ceidwadol i adael y Llywodraeth. Ymddiswyddodd Lloyd George ar 19 Hydref ac yntau yn 59 oed ac nid oedd i ddod yn agos at unrhyw swydd o awdurdod byth eto.