Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Er iddo ddod yn elyn i ddyhuddiaeth (appeasement) ym Medi 1936 fe dreuliodd David Lloyd George, ynghyd â Megan a Gwilym, bythefnos yn yr Almaen gan gyfarfod ag Adolf Hitler ddwywaith. Yr oedd Hitler wedi bod mewn grym am dair blynedd a hanner ac wedi llwyddo i ddileu diweithdra ar raddfa eang, a dyna ddenodd Lloyd George i'w gyfarfod. Trafodwyd y sefyllfa ryngwladol, amaethyddiaeth a materion cymdeithasol. Yr oedd Lloyd George yn frwdfrydig iawn am agweddau'r Almaen tuag at ddiweithdra, yswiriant iechyd, mudiadau lles a hamdden. Gwnaethpwyd argraff fawr arno ac fe gafodd ei swyno gan Hitler. Wedi dychwelyd fe wnaeth sylwadau canmoliaethus iawn am ei westeiwr. Gwnaeth yr ymweliad lawer o niwed i enw da Lloyd George.