Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Yr oedd Ewrop wedi'r rhyfel yn gwbl wahanol i'r hyn oedd yn 1914. Fel Prif Weinidog Prydain, Lloyd George oedd un o'r rhai fu'n gyfrifol am lunio'r cyfandir newydd hwnnw yn y Gynhadledd Heddwch ym Mharis yn 1919. Ceisiodd liniaru ar gynlluniau Cytundeb Versailles i wneud i'r Almaen "dalu" am y rhyfel, ond ni lwyddodd oherwydd yr oedd yr alwad am ddial yn gryf iawn, yn enwedig yn Ffrainc. Eto i gyd nid oedd am i Brydain fod ar ei cholled mewn unrhyw fodd yn dilyn ar y cytundeb.