Symud i'r prif gynnwys

David Lloyd George (1863-1945) yw'r gwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Bu ei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth Cymru, y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Bu'n aelod seneddol Rhyddfrydol am hanner can mlynedd gan wasanaethu mewn Llywodraeth fel Llywydd y Bwrdd Masnach (1905-08), Canghellor y Trysorlys (1908-15), Gweinidog Arfau (1915-16) a Gweinidog Rhyfel (1916). Ym mis Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog ar ganol y Rhyfel Byd Cyntaf. Daliodd ei afael ar swydd y Prif Weinidog tan 1922. Am weddill ei yrfa seneddol ni chafodd unrhyw swydd mewn Llywodraeth. Yn 1945 fe'i hurddwyd yn Iarll Lloyd-George o Ddwyfor, ond bu farw ddeufis yn ddiweddarach.

Paratowyd yr arddangosfa hon yn wreiddiol ym mis Mawrth 1995 i nodi hanner can mlwyddiant ei farwolaeth wrth olrhain hanes ei fywyd cyhoeddus a phreifat. Defnyddiwyd yr adnoddau niferus a sylweddol yn ymwneud â David Lloyd George sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'w pharatoi, ac yn arbennig casgliad Lloyd George (papurau o gartref teuluol Lloyd George yng ngogledd Cymru), casgliad A J Sylvester (papurau ysgrifennydd personol David Lloyd George) a chasgliad y Fonesig Olwen Carey Evans (merch David Lloyd George). Yn yr arddangosfa wreiddiol dangoswyd hefyd nifer o lawysgrifau o'r casgliadau, llyfrau printiedig (gan gynnwys nifer sylweddol o fywgraffiadau rhyngwladol ac astudiaethau hanesyddol), a recordiadau ffilm a sain.

Dysgwch fwy am David Lloyd George ar Y Bywgraffiadur Cymreig.