Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Sbardunodd Sgandal Marconi 1912-13 ymdeimlad o wyliadwriaeth yn rhai tuag at wleidyddiaeth ym Mhrydain. Credir mai rôl Lloyd George yn y sgandal ddaeth a’r achos i amlygrwydd gan danio diddordeb y wasg a’r cyhoedd. Roedd y sgandal yn cwmpasu tri gweinidog Rhyddfrydol yn bennaf; Rufus Isaacs, Alexander Murray a David Lloyd George, a honnwyd iddynt elwa’n ariannol o dendr llywodraethol.
Yn 1912 derbyniodd y Swyddfa Bost dendr ariannog a oedd yn gofyn i Gwmni Telegraff Diwifr Marconi yn Lloegr i ddatblygu, adeiladu a chynnal cyfres o orsafoedd a fyddai’n medru trosglwyddo a derbyn negeseuon diwifr ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig.
Roedd Godfrey Isaacs; Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Marconi Lloegr, yn frawd i’r Atwrnai Gwladol, Rufus Isaacs. O dan ddylanwad ei frawd, prynodd Rufus gyfranddaliadau yn is-gwmni Americanaidd Marconi, a hynny am bris ffafriol. Yn ôl y sôn, fy hysbysodd David Lloyd George, Canghellor y Trysorlys, ac Alexander Murray, Prif Chwip y Blaid Ryddfrydol, o’r contract er mwyn iddynt hefyd brynu cyfranddaliadau yn y Cwmni Marconi. Fe fuddsoddodd Murray ar ran y Blaid Ryddfrydol hefyd.
Yn dilyn beirniadaethau graddol o’r wasg, y cyhoedd a‘r gwrthbleidiau, fe sefydlwyd pwyllgor gan y Prif Weinidog Asquith i archwilio’r honiadau. Yn ystod yr ymchwiliad, cydnabu Isaacs, Murray a Lloyd George eu bod wedi prynu cyfranddaliadau yng Nghwmni Marconi America. Fodd bynnag, mynnent hefyd nad oeddent wedi buddsoddi mewn cwmni a gontractiwyd yn uniongyrchol gan y Llywodraeth.
Ar y 30ain o Fehefin, 1913, cyflwynodd y Pwyllgor Dethol adroddiadau ar achos Marconi. Roedd y mwyafrif yn gytûn nad oedd y gweinidogion wedi camddefnyddio gwybodaeth ar gyfer budd personol. Ar y llaw arall, bernid ymddygiad y gweinidogion gan yr adroddiad lleiafrifol. Llofnododd Albert Spicer, Cadeirydd yr ymchwiliad, adroddiad y mwyafrif.