Symud i'r prif gynnwys

Er taw ym Manceinion y ganwyd David Lloyd George, Llanystumdwy yn Eifionydd fu ei "gartref" erioed. Dyma fro mebyd ei fam. Yma y bu'n byw o pan yn flwydd oed hyd yn ddwy ar bymtheg.

Ymladdodd ei frwydr gyntaf dros "ryddid crefyddol" yn ysgol eglwysig Llanystumdwy, pan drefnodd brotest yn erbyn dweud y Credo a'r Catecism. Gadawodd yr ysgol ym mis Gorffennaf 1878 a dywed y llyfr lòg iddo fynd a hyfforddi fel twrnai.

O Drefwrdan yn Sir Benfro y deuai William George, tad David Lloyd George. Wrth ddysgu yn ysgol Troed-yr-allt, Pwllheli cyfarfu a phriodi ag Elizabeth Lloyd o Lanystumdwy. Wedyn symudodd i weithio i Fanceinion ac yno ym mis Ionawr 1863 y ganwyd David Lloyd George. Cyn diwedd y flwyddyn symudodd yn ôl i Sir Benfro i gadw tyddyn. Nid oedd yn ddyn iach yn gorfforol ac fe'i blinid gan iselder ysbryd. Ym Mehefin 1864 bu farw. O fewn pedwar mis symudodd Elizabeth a'i phlant, Ellen a David, yn ôl i Lanystumdwy i fyw at Richard, ei brawd hithau. Ymhen ychydig fisoedd ganwyd plentyn arall iddi a enwyd yn William ar ôl ei dad.

Bu brawd ei fam, Richard Lloyd (Uncle Lloyd) yn ddylanwad mawr ar y David Lloyd George ifanc. Mewn gwirionedd fe barhaodd yn athro ac arweinydd i'w nai hyd 1917 pan fu farw yn ei wythdegau. Gweithiai fel crydd. Ar yr un pryd gweithredai fel gweinidog lleyg eglwys Disgyblion Crist (Bedyddwyr Albanaidd) yng Nghricieth. Yr oedd yn Rhyddfrydwr ac yn anghydffurfiwr o argyhoeddiad dwfn.