Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd Isaac Hughes yn löwr ac yn nofelydd. Ysgrifennodd chwe nofel, a’r un a werthodd orau oedd ‘Y Ferch o Gefn Ydfa’. Mae’r nofel yn adrodd hanes Ann Maddocks, arwres drasig o deulu Cefn Ydfa, Morgannwg. Priodwyd hi yn un ar hugain oed, yn erbyn ei hewyllys, i Anthony Maddocks, cyfreithiwr llwyddiannus. Arweiniodd hyn at greu myth rhamantus a phoblogaidd yn yr ardal, a dyma sail nofel Hughes. Roedd Ann mewn cariad â bardd ifanc o’r enw Wil Hopcyn, y credir iddo gyflwyno ei gerdd ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ iddi. Yn ôl y stori, bu farw Ann o dor calon yn fuan wedi seremoni ei phriodas a Anthony Maddocks. Mae fersiwn Isaac Hughes o’r stori yn emosiynol ac yn llawn manylion a disgrifiadau teimladwy. Yn ddiweddarach, cyhoeddwyd cyfieithiad o’i nofel gyda’r teitl ‘The Maid of Cefn Ydfa’.