Symud i'r prif gynnwys


Mae Daniel Owen yn un o nofelwyr mwyaf nodedig Cymru. Ni dderbyniodd lawer o addysg yn ystod ei blentyndod cynnar ac aeth i weithiodd mewn siop deilwra’n ifanc. Ym 1865 aeth Daniel Owen i goleg y Bala; er na ragorodd fel myfyriwr yno, darllenodd yn eang a dangosodd ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Saesneg. Ar gais Roger Edwards, cyfrannodd ei nofel gyntaf – ‘Y Dreflan’, yn gyfresol i ‘Y Drysorfa’, sef cyhoeddiad Methodistaidd Calfinaidd. Roedd Daniel Owen yn hoff o archwilio cymunedau Cymreig yn ei nofelau, yn enwedig cymunedau’n amgylchynu’r capel. Fodd bynnag, yn ei drydedd nofel, ‘Profedigiadau Enoc Huws’, ymestynnodd ychydig yn ehangach na’r seiat Fethodistaidd a lluniodd gymeriadau a oedd ar gyrion y cyfarfodydd crefyddol hynny. Cafodd ‘Profedigaethau Enoc Hughes’ ei gyfresoli gan Isaac Foulkes yn ‘Y Cymro’ rhwng 1890 a 1891. Canolbwyntia’r nofel ar fywyd Enoc, a fagwyd mewn tloty’n wreiddiol, ond a ddaeth yn berchennog siop lwyddiannus. Comedi yw’r nofel a edrydd hanes carwriaeth anobeithiol Enoc. Mae’r trafferthion rhyngo a’i ofalwr tŷ, ynghyd a’i gyfarfodydd cythryblus â’r Capten Trefor hefyd yn ganolbwynt i’r stori. Roedd cyhoeddiadau Daniel Owen yn gamau sylweddol ymlaen yn hanes y nofel Gymraeg a Chymreig.