Symud i'r prif gynnwys


Daeth enw Caradoc Evans yn adnabyddus dros nos gyda llwyddiant ei gasgliad cyntaf o straeon byrion yn y gyfrol ‘My People’. Yn ei straeon, mae’n cyflwyno darlun cyson anfaddeuol o gymdeithas werin ryfedd; yn sathredig dan draed crefydd ac wedi ei chadw gan dir amhroffidiol. Mae pob gweithred wedi ei chymell gan drachwant a rhagrith, yn arwain at ddioddefaint a marwolaeth. Beirniadwyd ei waith gan nifer o Gymry a oeddent yn anfodlon gyda’i gam-driniaeth o’r cysyniadau a ffurfiodd y bywyd a’r cymeriad Cymreig. Serch hynny, canmolwyd Evans gan gynulleidfa fwy gwrthrychol a edmygai wreiddioldeb ei olygwedd. ‘My People’ yw gwaith mwyaf pwerus a chofiadwy Caradoc Evans, a’r gwaith mwyaf adnabyddus hyd heddiw gan awdur Eingl-Gymreig.