Symud i'r prif gynnwys


Roedd William Rees (Gwilym Hiraethog) yn olygydd, yn awdur toreithiog, yn weinidog Annibynnol ac roedd hefyd yn arweinydd radical dylanwadol. Llwyddodd Hiraethog i ddylanwadu ar wleidyddiaeth Gymreig drwy gyfrwng y wasg ac o’r llwyfan. Sylfaenodd ‘Yr Amserau’, wythnosolyn rhyddfrydol, yn Lerpwl yn 1843, a bu’n olygydd ar y papur hyd 1852. Hwn oedd y papur newydd Cymraeg llwyddiannus cyntaf. Dadleuodd Gwilym Hiraethog o blaid diddymu caethwasiaeth yr yr U.D.A., yn bennaf drwy ei lyfr ‘Aelwyd F’ewythr Robert’, a seiliwyd ar ‘Uncle Tom’s Cabin’ gan Harriet Beecher Stowe.