Symud i'r prif gynnwys


Yr oedd William Rees, neu Gwilym Hiraethog, yn olygydd, awdur cynhyrchiol, gweinidog gyda’r Annibynwyr ac yn arweinydd radicalaidd dylanwadol. Sefydlodd ‘Yr Amserau’, sef wythnosolyn rhyddfrydol Cymreig, yn Lerpwl ym 1843, a bu’n olygydd ar y cyhoeddiad hyd 1852. Ymdrechodd i ysgrifennu nofel o dan y teitl ‘Helyntion bywyd hen deiliwr’, ond nid oedd y gwaith hwn yn meddu ar briodweddau’r nofel gyfoes. Cyhoeddwyd yn wreiddiol ym mhapur wythnosol ‘Y Tyst’, a hynny pennod wrth bennod. Edrydd y nofel hanes hen deiliwr wrth iddo hel atgofion am ei yrfa, yn enwedig ei gyfnod yn ymweld â chleientiaid ledled Cymru gyda’i feistr. Disgrifia’r teiliwr amryw o’r teuluoedd a wasanaethodd. Canolbwynt penodau Gwilym Hiraethog yn y pendraw yw tröedigaeth grefyddol teulu’r Hafod Uchaf. Drwy atgofion yr hen deiliwr cyflëir cyflwr cymdeithasol a chrefyddol y Cymry yn effeithiol gan yr awdur. Nid yn unig y mae storïau Gwilym Hiraethog yn arwyddocaol yng nghyd-destun llenyddiaeth felly, ond maent o bwysigrwydd hanesyddol a chymdeithasol hefyd, yn enwedig wrth asesu Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.