Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Gweithredydd gwleidyddol a nofelydd oedd Lewis Jones. Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y rhan fwyaf o wrthdrawiadau diwydiannol dechrau’r 20fed ganrif, er enghraifft Streic Gyffredinol 1926, protestiadau yn erbyn y Prwaf Moddion (a gyflwynwyd yn y 1930au), a’r gorymdeithiau newyn enwog i Lundain – 1932, 1934 ac 1936. Roedd Jones hefyd yn aelod brwd o’r Blaid Gomiwnyddol. Mae rhychwant ei waith llenyddol yn syfrdanol am iddo, mewn cyfnod byr, anodd a phrysur, ysgrifennu dwy nofel am gymoedd glofaol De Cymru. Er nad yw’r cyfrolau’n ddi-fai o safbwynt llenyddol, mae eu cynnwys yn nodedig ac yn parhau i fod yn arbennig o bwerus. Bwriadai i’w nofelau ‘Cwmardy’ a ‘We Live’ gael eu darllen mewn trefn. Maent yn ymdrin â Streic y Cambrian Combine yn 1910-11 a brwydr y glowyr hyd at 1926.