Symud i'r prif gynnwys


Mae Daniel Owen yn un o nofelwyr mwyaf nodedig Cymru. Ni dderbyniodd lawer o addysg yn ystod ei blentyndod cynnar ac aeth i weithiodd mewn siop deilwra’n ifanc. Darparodd y fath amgylchfyd cyfleon amrywiol iddo sgwrsio am bynciau niferus gydag amrywiaeth o bobl. Dylanwadodd y profiadau hynny ar ei waith, yn enwedig wrth lunio cymeriadau a’u deialog. Ym 1865 aeth Daniel Owen i goleg y Bala; er na ragorodd fel myfyriwr yno, darllenodd yn eang a dangosodd ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Saesneg. Ar gais Roger Edwards, cyfrannodd ei nofel gyntaf - 'Y Dreflan', yn gyfresol i 'Y Drysorfa', sef cyhoeddiad Methodistiaidd Calfinaidd. Rhwng 1882 a 1885 cyfrannodd nofel arall sef 'Hunangofiant Rhys Lewis, gweinidog Bethel', yn yr un modd i 'Y Drysorfa'. Yn 'Rhys Lewis', archwilia Daniel Owen cymuned Gymreig sy'n cylchdroi o gwmpas y capel. Gellir adnabod llinyn cyswllt yn ei holl weithiau sef stôr o gymeriadau sy’n ffurfio cymdeithas wledig. Defnyddia’r awdur arddull hunangofiannol i adrodd stori Rhys Lewis, gweinidog dychmygol Capel Bethel. Yr oedd y cyhoeddiad hwn yn gam sylweddol ymlaen yn hanes y nofel Gymraeg a Chymreig.