Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Awdur a newyddiadurwr oedd Arthur Machen. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Cadeirlan Henffordd hyd nes ei fod yn 17 oed, ond methodd a sicrhau lle mewn prifysgol. Ymhen ychydig, symudodd Machen i Lundain i astudio llaw-fer, gan obeithio am yrfa mewn newyddiaduraeth. Yn dilyn cyfnod o dlodi difrifol yn y ddinas, llwyddodd i gael incwm annibynnol bychan a chyhoeddodd rhai o’i straeon cynnar gorau. Roedd yn amlwg bod dylanwad awduron gothig eraill o ddiwedd y 19eg ganrif ar ei waith, er enghraifft Poe a Stevenson. Roedd gan Machen ddiddordeb arbennig mewn chwedloniaeth Arthuraidd a chrefyddau Celtaidd ac eraill o’r cyfnod cyn Cristnogaeth, ac fe’i sbardunwyd i ysgrifennu cyfres o straeon goruwchnaturiol, gan gynnwys ‘The Great God Pan’.