Symud i'r prif gynnwys

Cyf 1

Cyf 2


Yr oedd Amy Dillwyn yn nofelydd, yn ddiwydiannwr, ac yn ymgyrchydd brwd, a threuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd yn Abertawe, ei dinas enedigol. ‘The Rebecca rioter’ oedd nofel gyntaf yr awdures a chaiff ei gydnabod yn gyffredinol fel ei gwaith mwyaf safonol. Edrydd y nofel hanes ymosodiad enwog Merched Beca ar dollborth Pontarddulais. Ysgrifennwyd y nofel o bersbectif terfysgwr ac y mae cefnogaeth yr awdur tuag at eu hachos i’w gweld yn amlwg. Yn ei nofelau, canolbwyntiodd Amy Dillwyn ar safle menywod o fewn y gymdeithas Fictoraidd.